Bydd y bil Treth Gyngor ar gyfer eiddo lle caiff un o ddau breswylydd ei eithrio yr un fath ag ydyw ar gyfer eiddo gydag un preswylydd yn unig. Hynny yw, cewch ostyngiad o 25%.
Os yw rhywun sy'n gymwys am eithriad yn byw ar ei ben ei hun, neu ond gydag eraill nad ydynt yn gymwys am eithriad, bydd gostyngiad o 50% yn berthnasol.
Nid yw pobl yn y grwpiau canlynol yn cael eu cyfrif tuag at nifer yr oedolion sy'n byw mewn eiddo:
- myfyrwyr llawn-amser
- nyrsys sy'n fyfyrwyr
- diplomyddion
- gŵr neu wraig i fyfyriwr nad yw'n dod o Brydain
- aelodau o'r lluoedd arfog a'u dibynyddion
- pobl 18+ oed sydd â hawl i gael budd-dal plant
- pobl yn y carchar
- aelodau o gymunedau crefyddol (e.e. mynachod a lleianod)
- pobl sy'n gofalu am rywun anabl nad yw'n ŵr, yn wraig neu'n bartner nac yn blentyn dan 18 oed
- gweithwyr gofal sy'n gweithio am dâl isel (fel arfer i elusennau)
- pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn yr ysgol neu sydd newydd adael ysgol
- pobl sy'n aros mewn hosteli/llochesi nos penodol
- pobl sydd ag amhariad gwybyddol sylweddol
- cleifion mewn ysbytai
- cleifion mewn cartrefi gofal
- prentisiaid a'r rhai ar hyfforddiant ieuenctid (ni ddylai prentisiaid ennill mwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol)
- pobl sy'n gadael gofal
Sylwer, os yw eiddo'n cael ei feddiannu gan fyfyrwyr, pobl sy'n gadael gofal neu bobl â nam meddyliol difrifol yn unig neu unrhyw gyfuniad o'r rhain, gall eithriad fod yn berthnasol.
