Gall eithriadau'r dreth gyngor fod ar gael os yw eiddo:
- Heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth (wedi'i eithrio am hyd at 6 mis).
- Heb ei feddiannu oherwydd bod rhywun yn y carchar.
- Wedi'i feddiannu gan fyfyrwyr yn unig.
- Wedi'i feddiannu gan bobl sy'n gadael gofal yn unig.
Rhesymau eraill dros eithriadau
Gellid hefyd ystyried eithriadau ar eiddo:
- Lle mae angen gwaith atgyweirio strwythurol arno, neu mae hyn ar waith neu wedi cael ei wneud. Rhaid i'r eiddo hefyd fod heb ei ddodrefnu i raddau helaeth (wedi'i eithrio am hyd at 12 mis)
- Sydd heb ei feddiannu ac yn eiddo i elusen (wedi'i eithrio am hyd at chwe mis)
- Sydd wedi'i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sydd yn yr ysbyty neu mewn cartref nyrsio neu ofal yn barhaol
- Sydd wedi'i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy'n derbyn gofal mewn lle arall (heblaw am ysbyty, cartref nyrsio neu gartref gofal)
- Sydd wedi'i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy'n byw ac yn rhoi gofal yn rhywle arall
- Sydd heb ei feddiannu oherwydd marwolaeth y preswylydd/preswylwyr (wedi'i eithrio am hyd at 12 mis ar ôl profiant neu lythyrau gweinyddu). Dim ond pan fo'r eiddo wedi bod yn wag ers dyddiad marwolaeth y preswylydd y mae'r eithriad hwn yn gymwys.
- Lle mae'r gyfraith yn gwahardd meddiannu'r eiddo
- Sydd heb ei feddiannu ac wedi'i ddal ar gyfer gweinidog crefyddol
- Sy'n eiddo i fyfyriwr a heb ei feddiannu ar hyn o bryd. Dim ond os mai'r myfyriwr oedd y person olaf i fyw yno (gan gynnwys gyda myfyrwyr eraill) y mae'r eithriad hwn yn gymwys.
- Sydd wedi'i adfeddiannu ac heb ei feddiannu
- Sy'n neuaddau preswyl yn bennaf ar gyfer llety myfyrwyr
- Sy'n eiddo'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn
- Sydd wedi'i feddiannu gan aelodau o luoedd sy'n ymweld
- Sydd heb ei feddiannu ac yn cael ei ddal gan ymddiriedolwr mewn methdaliad
- Sy'n llain carafán neu'n angorfa cwch heb ei meddiannu
- Sy'n cael ei feddiannu gan berson/bobl dan 18 oed yn unig
- Sy'n rhandy heb ei feddiannu
- Sydd wedi'i feddiannu ond gan berson/bobl sydd â nam meddyliol difrifol
- Sy'n eiddo sydd wedi'i feddiannu gan ddiplomyddion penodol
