Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Beth mae'r dreth gyngor yn talu amdano?

Mae eich Treth Gyngor yn helpu i dalu am wasanaethau lleol fel:

  • ysgolion, addysg a gwasanaethau ieuenctid
  • llyfrgelloedd
  • parciau, mannau agored ac orielau
  • gofal cymdeithasol i'r henoed, plant ac aelodau eraill y gymuned sy'n agored i niwed
  • cymorth i'r sector gwirfoddol
  • cynllunio a rheoli adeiladu
  • casglu gwastraff, glanhau strydoedd a materion amgylcheddol eraill
  • cynnal a chadw ffyrdd a phontydd
  • rheoli traffig a diogelwch ar y ffyrdd
  • gwasanaethau parcio a rheolaeth
  • etholiadau, cofrestryddion genedigaethau, marwolaethau a phriodasau
  • mynwentydd, amlosgfeydd a gwasanaethau marwdai
  • amddiffyn defnyddwyr
  • datblygu economaidd ac adfywio
  • gwasanaethau datblygu cymunedol
  • darpariaeth tai, strategaeth, cyngor a gwasanaethau i'r digartref
  • budd-daliadau tai a gweinyddu'r Dreth Gyngor