Peidiwch ag anwybyddu unrhyw hysbysiad a gewch am dalu eich treth gyngor. Cysylltwch â ni os ydych yn cael anawsterau wrth dalu eich bil.
Os byddwch yn talu eich rhandaliadau yn hwyrach na'r dyddiadau a ddangosir ar eich bil treth gyngor, efallai y byddwn yn anfon hysbysiad atgoffa atoch i'w dalu'n hwyr.
Rhaid i chi dalu'r swm a ddangosir ar y nodyn atgoffa erbyn y dyddiad ar y llythyr amgaeedig.
Bydd angen i chi dalu eich holl randaliadau ar amser yn y dyfodol, neu efallai y byddwch yn colli eich hawl i dalu mewn rhandaliadau.
Os nad ydych yn credu y byddwch yn gallu talu, cysylltwch â ni i gael cyngor.
Os na fyddwch yn talu, byddwn yn trosglwyddo cwyn i Lys Ynadon Caerdydd. Anfonir Gwŷs Llys atoch am beidio â thalu'r dreth gyngor, byddwch hefyd yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cam gweithredu hwn.
Cael Gwŷs
Pan gewch wŷs, byddwn yn gwneud cais i'r Ynadon am Orchymyn Dyled am swm llawn y dreth gyngor sy'n ddyledus gennych.
Gallwch atal y weithred hon trwy dalu'r swm a ddangosir ar eich gwŷs yn llawn, gan gynnwys y costau, cyn dyddiad y llys.
Os na allwch dalu'r swm llawn cyn dyddiad y llys, dysgwch beth i'w wneud os ydych wedi derbyn gwŷs.
Ni fydd hyn yn atal y weithred llys a chodir costau llys arnoch o hyd.
Ymdrinnir ag achos llys yn y Llys Ynadon, felly ni fydd Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn ac ni fydd eich statws credyd yn newid o ganlyniad i'r weithred hon.
Mynd i'r Llys
Eich hawl chi yw ymddangos yn y llys os ydych wedi cael eich galw, ac os ydych yn dymuno bod yn bresennol dylech gysylltu â ni i drefnu apwyntiad.
Os ydych wedi cysylltu â ni i drafod eich cyfrif, efallai na fydd rhaid i chi fynd i'r llys.
Os byddwch yn dewis mynd i wrandawiad y llys, bydd yr Ynadon yn gofyn a oes gennych amddiffyniad dilys a fydd yn atal y Gorchymyn Dyled rhag cael ei roi. Nid yw'r canlynol yn amddiffyniad dilys:
- allwch chi ddim fforddio talu,
- rydych wedi gwneud cais am Ostyngiad y Dreth Gyngor, Disgownt, Eithriad neu ostyngiad arall,
- mae gennych apêl heb ei chynnal eto gyda'r Tribiwnlys Prisio,
- nid ydych wedi derbyn yr hysbysiadau a anfonwyd atoch. Nid oes rhaid i'r Cyngor brofi eich bod wedi'u derbyn.
Os na fyddwch yn bresennol, bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen yn eich absenoldeb a byddwn yn parhau i wneud cais am y Gorchymyn Dyled.
Gorchymyn Dyled
Mae'r Ynadon yn rhoi Gorchymyn Dyled i'r Cyngor, sy'n rhoi pwerau cyfreithiol i ni adennill y dreth gyngor sy'n weddill.
Mae Gorchymyn Dyled yn ein galluogi i gymryd unrhyw un o'r camau canlynol os na fyddwch yn talu eich treth gyngor:
- cael gwybodaeth am eich cyflogaeth neu eich budd-daliadau,
- gorchymyn i'ch cyflogwr gymryd yr arian yn uniongyrchol o'ch cyflog,
- gwneud didyniadau o'ch Cymhorthdal Incwm neu'ch Lwfans Ceisio Gwaith,
- defnyddio Asiantau Gorfodi i adfer nwyddau o'ch cartref,
- gwneud cais am Orchymyn Arwystlo ar eich tŷ a fydd yn golygu na allwch ei werthu nes bod y dreth gyngor wedi'i thalu,
- gwneud cais i'r Uchel Lys i ddatgan eich bod yn fethdalwr.
Dysgwch beth i'w wneud os ydych wedi derbyn Gorchymyn Dyled.
Peidiwch ag anwybyddu eich bil treth gyngor. Os na allwch dalu, cysylltwch â ni fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael y cyngor cywir.
