Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cael copi o'ch bil treth gyngor

Os oes gennych rif eich cyfrif treth gyngor, gallwch gofrestru are gyfer e-filio​ i weld ac argraffu biliau'r dreth gyngor yn y dyfodol o'ch treth gyngor ar-lein.

Bydd angen eich cod post a rhif eich cyfrif treth gyngor wrth law.

Os ydych wedi sefydlu Debyd Uniongyrchol neu wedi gwneud taliad am dreth gyngor, bydd eich rhif cyfrif yn ymddangos ar eich cyfriflen banc.

Byddwch yn gallu gweld gwybodaeth eich cyfrif treth gyngor am y ddwy flynedd ddiwethaf. Gallwch ddefnyddio hyn fel prawf o atebolrwydd.

Os nad ydych yn gwybod rhif eich cyfrif treth gyngor

Os nad ydych yn gwybod rhif eich cyfrif treth gyngor, gallwch ofyn i ni anfon y manylion atoch.

Nodwch y canlynol:

  • eich enw,
  • eich cyfeiriad, a
  • naill ai 4 digid olaf rhif eich cyfrif banc (os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol), neu
  • ddyddiad a swm y taliad diwethaf.

Os mai chi yw'r landlord neu'r asiant gosod sy'n gofalu am yr eiddo, rhowch:

  • eich enw,
  • eich cyfeiriad cyswllt,
  • manylion cyfeiriad yr eiddo dan sylw, a
  • naill ai 4 digid olaf rhif eich cyfrif banc (os ydych yn talu trwy Ddebyd Uniongyrchol), neu
  • ddyddiad a swm y taliad diwethaf.

Gofynnwch am fanylion eich cyfrif treth gyngor