Sicrhewch eich bod yn rhoi'ch enw cyntaf, cyfenw a chod post yn union fel y maent ar eich bil.Mae'ch rhif cyfrif 8 digid ar eich bil treth gyngor.
Defnyddiwch rif eich cyfrif i gael mynediad i'ch Cyfrif Treth Gyngor ar-lein.
Gallwch weld manylion o ran:
- faint mae angen i chi ei dalu,
- pryd mae angen i chi dalu,
- eich band prisio,
- y taliadau yr ydych wedi'u gwneud, ac
- unrhyw daliadau sy'n ddyledus.
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i'ch cyfrif, gallwch hefyd:
- drefnu debyd uniongyrchol,
- diwygio debyd uniongyrchol,
- gwneud cais ar-lein am ad-daliad,
- gwblhau adolygiad eithriad myfyriwr, a
- cwblhau adolygiad gostyngiad person sengl.
Os hoffech siarad â rhywun am eich Treth Gyngor, cysylltwch â ni.
Yn anffodus, os yw eich Cyfrif Treth Gyngor yn enw cwmni neu asiant eiddo, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i wybodaeth trwy'r Dreth Gyngor Ar-lein.
E-filiau Treth Gyngor
Gallwch chi ddewis peidio â derbyn biliau papur a dechrau derbyn eich biliau treth gyngor yn electronig.
Mae hyn yn golygu y gallwch weld eich biliau ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Byddwch hefyd yn derbyn nodiadau atgoffa neu hysbysiadau terfynol yn electronig.
Sut i gofrestru ar gyfer e-filiau
Bydd angen rhif eich cyfrif Treth Cyngor arnoch i fewngofnodi i'n system Treth Gyngor ar-lein. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch ddewis derbyn e-filiau yn y dyfodol.
Cofrestrwch ar gyfer e-filiau Treth Gyngor.
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni ar-lein am eich treth gyngor gan ddefnyddio ein ffurflenni cyswllt.
Cofiwch gynnwys eich rhif Treth Gyngor pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy ddefnyddio ein ffurfleni ar-lein.
Gallwch ffonio Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30am a 5pm.
Mae'r ganolfan gyswllt ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus y DU. Os byddwch yn ffonio pan fydd ein canolfan gyswllt ar gau, byddwch yn clywed neges yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol.
Ysgrifennwch i:
Y Dreth Gyngor
BLWCH POST 9000
Caerdydd
CF10 3WD
