Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Newid tenantiaeth

Mae'r cyfrifoldeb am dalu'r Dreth Gyngor yn dibynnu ar ba fath o drefniant gosod rydych chi wedi'i sefydlu.

Os ydych yn rhentu'r eiddo cyfan i un person neu deulu, cyfrifoldeb y person neu'r teulu yw talu'r Dreth Gyngor a bydd bil yn cael ei anfon at y person/teulu.

Os ydych yn rhentu'r eiddo cyfan i fwy nag un person ond tenantiaid ar y cyd ydynt, eu cyfrifoldeb hwy yw talu'r Dreth Gyngor yn y rhan fwyaf o amgylchiadau a byddwn yn anfon bil atynt.

Os ydych yn rhentu eiddo i nifer o bobl a bod gan bob un gytundeb tenantiaeth unigol gyda chi, mae'r eiddo'n cael ei ystyried yn Dŷ Amlfeddiannaeth at ddibenion y Dreth Gyngor. Chi, fel y landlord, fydd yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor a byddwch yn cael y bil.

Er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o'r Dreth Gyngor, mae angen i ni wybod pryd mae eich amgylchiadau'n newid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym os ydych yn landlord a bod gennych denant newydd.

Mae'n rhaid i bob landlord preifat ar gyfer eiddo domestig fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru. Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n gwneud gweithgareddau gosod a rheoli eiddo fod â thrwydded gyda Rhentu Doeth Cymru. Darganfyddwch fwy yn www.rhentudoeth.llyw.cymru.

Rhowch wybod i ni am newid tenantiaeth

Rhowch wybod i ni am newid tenantiaeth os ydych chi'n berchennog neu asiant eiddo.

Perchennog - Ffurflen newid tenantiaeth

Asiant - Ffurflen newid tenantiaeth