Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Premiymau treth gyngor

Bydd eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yng Nghaerdydd yn destun premiwm treth y cyngor. Mae premiwm yn swm ychwanegol o dreth y cyngor i'w dalu ar ben bil safonol y dreth gyngor.

Bwriad y premiwm yw:

  • ailddefnyddio cartrefi gwag hirdymor i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy
  • cefnogi cynghorau i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cymunedau lleol.

Mae eiddo hirdymor sydd heb ei feddiannu eisoes yn gorfod talu premiwm treth gyngor. O fis Ebrill 2024, bydd ail gartrefi ac eiddo wedi'u dodrefnu nad ydynt yn breswylfa neb hefyd yn destun premiwm treth gyngor.

Eiddo gwag a dodrefnu

O fis Ebrill 2024, codir premiwm o 100% arnoch os oes gennych ail gartref, neu eiddo wedi'i ddodrefnu nad yw'n breswylfa i neb. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu 200% o'r dreth gyngor.

Mae rhai eiddo wedi'u heithrio o'r tâl premiwm hwn a dim ond swm safonol y dreth gyngor y codir tâl arnynt. Mae'r rhain yn:

  • eiddo sydd ar werth neu ar osod (am hyd at 12 mis yn unig)
  • anecs sy'n rhan o'ch prif eiddo,
  • eiddo a fyddai'n brif breswylfa i chi pe na baech yn byw yn llety'r lluoedd arfog,
  • os yw eich eiddo yn garafán ar lain o dir neu gwch gydag angorfa,
  • artref tymhorol na allwch fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn, neu
  • eiddo sy'n gysylltiedig â swydd.

Mae yna hefyd rai mathau o ail gartrefi ac eiddo wedi'u dodrefnu nad ydynt yn breswylfa neb sy'n gymwys i gael gostyngiad treth gyngor​.

Eiddo gwag ac heb ei ddodrefnu

Os yw eiddo wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ei ddodrefnu am fwy na 12 mis, codir tâl premiwm o 100% yn ychwanegol at y dreth gyngor safonol.

O 1 Ebrill 2024, codir premiwm o 200% ar eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth ers 2 flynedd. Codir premiwm o 300% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 3 blynedd.

Y ffioedd ar gyfer eiddo sydd heb eu meddiannu yn yr hirymdor fydd:

  • 200% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn (tâl treth gyngor safonol o 100% a thâl premiwm o 100%)
  • 300% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 2 flynedd (tâl treth gyngor safonol o 100% a thâl premiwm o 200%)
  • 400% ar eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 3 flynedd (tâl treth gyngor safonol o 100% a thâl premiwm o 300%)

Mae rhai mathau o eiddo wedi'u heithrio rhag y tâl premiwm, megis:

  • eiddo sydd ar werth neu ar osod (am hyd at 12 mis yn unig),
  • anecs sy'n rhan o'ch prif eiddo, neu
  • eiddo a fyddai'n brif breswylfa i chi pe na baech yn byw yn llety'r lluoedd arfog.

Os yw eich eiddo wedi'i eithrio o'r ffi premiwm, dim ond y swm safonol o dreth gyngor y byddwch yn ei dalu. Pan fydd yr eithriad yn dod i ben, codir premiwm arnoch.

Sut i wneud cais am warhaddiad

Defnyddiwch y ffurflen hon i hawlio eithriad o'r tâl premiwm treth gyngor.

Ffurflen eithrio rhag tâl premiwm

Os yw'ch eiddo wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ei ddodrefnu am lai na 6 mis, efallai y gallwch hawlio eithriad llawn o'r tâl.

 

Sut mae'r incwm tâl premiwm yn cael ei ddefnyddio

Ar 1 Ebrill 2025, roedd 843 eiddo heb eu meddiannu ac heb eu dodrefnu i raddau helaeth am fwy na 12 mis. Codwyd premiwm ar 711 o'r eiddo hyn.

Roedd yna hefyd 3,273 o eiddo wedi'u dodrefnu nad oeddent yn breswylfa i neb, a chodwyd premiwm ar 1,764 o'r eiddo hyn.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, casglwyd cyfanswm o £1,433,063.73 o daliadau premiwm am eiddo hirdymor heb eu meddiannu. Casglwyd £2,365,848.14 o daliadau premiwm ar eiddo wedi'u dodrefnu nad oedd yn breswylfa i neb.

Mae'r premiymau rydym wedi'u casglu yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan eiddo sydd heb eu meddiannu'n hirdymor.

Tîm Datrysiadau Tai

Gyda'r cyllid o bremiymau treth gyngor, rydym wedi gallu rhoi mwy o swyddogion mewn Hybiau lleol. Mae'r swyddogion hyn yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol i atal pobl rhag bod angen ein gwasanaeth digartrefedd.

Ers i ni ehangu'r tîm, rydym wedi rhoi cefnogaeth a chyngor i dros 823 o gwsmeriaid.

Tîm Gwasanaeth Tenantiaid ac Ymholiadau Landlordiaid (LETS)

Os oes gennych eiddo gwag hirdymor lle rydych chi'n talu Premiwm Treth y Cyngor ar hyn o bryd, gall ein gwasanaeth LETS eich helpu i ddod o hyd i denant ar gyfer eich eiddo.

Rydym yn gweithio gyda landlordiaid preifat ledled Caerdydd i:

  • sicrhau bod eu heiddo yn barod i'w gosod, gynnwys Grantiau Cartrefi Gwag,
  • paru tenantiaid â thai addas, a
  • cofrestru eu heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru.

Bydd hyn yn cynyddu nifer y tai sydd gennym ar draws Caerdydd a gall ddarparu tai i'r rhai sydd eu hangen.

Ers mis Ebrill 2025, rydym wedi:

  • cefnogi 186 o bobl mewn llety rhent preifat,
  • a cofrestru 38 eiddo i Gynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru (roedd 21 o'r cartrefi hyn yn wag yn wreiddiol).

Gallwch ddysgu mwy am LETS ar wefan Tai Caerdydd.

Gorfodi tai

Mae'r premiymau treth gyngor rydym wedi'u casglu wedi ein galluogi i weithio gyda pherchnogion eiddo gwag i'w defnyddio unwaith eto.

Hyd yn hyn, rydym wedi gallu:

  • dod ag 84 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2021 a 2022,
  • dod â 95 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2022 a 2023,
  • dod â 118 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2023 a 2024, a
  • dod â 161 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2024 a 2025.