Adfywio cymdogaethau yw'r broses o ddiweddaru ardaloedd fel eu bod yn diwallu anghenion presennol. Gall hyn gynnwys newidiadau i:
- tai,
- strydoedd,
- mannau cyhoeddus, a
- gwasanaethau lleol.
Rydym yn gweithio gyda phreswylwyr a phartneriaid i:
- deall problemau,
- cynllunio gwelliannau, a
- rheoli tarfu.
Ein nod yw sicrhau bod ein cymdogaethau'n parhau i fod yn ddiogel ac yn gallu cefnogi'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddynt.
Cynlluniau adnewyddu cymdogaeth
Mae'r rhaglen cynlluniau adnewyddu cymdogaethau yn seiliedig ar flaenoriaethau adfywio a nodwyd gan gynghorwyr ward, fel cynrychiolwyr cymunedau lleol.
Mae'r rhaglen yn cyflawni projectau adfywio ledled y ddinas, yn amrywio o barciau newydd a gwelliannau i strydoedd i welliannau diogelwch cymunedol.
Gallwch ddod o hyd i brojectau wedi'u cwblhau ar y wefan Datblygu ac Adfywio Caerdydd.
Adfywio Cymdogaethau
Mae'r rhaglen adfywio ystadau'n canolbwyntio ar gyflawni cynlluniau sy'n gwella amgylchedd ystadau tai ledled y ddinas.
Y nod yw i:
- greu cymunedau mwy diogel a deniadol,
- gwella safon bywyd i breswylwyr, ahyrwyddo balchder yn y gymuned a pharchu'r amgylchedd.
Gallwch ddod o hyd i rhagor o'n brojectau ar y wefan Datblygu ac Adfywio Caerdydd.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
