Mae canolfannau siopa cymunedol wrth galon cymdogaethau lleol ac yn darparu siopau, busnesau, gwasanaethau, swyddi a chyfleusterau cymunedol o fewn pellter cyraeddadwy o gartrefi pobl.
Mae gan y Cyngor Strategaeth Canolfannau Ardal.
Nod y Strategaeth yw:
- codi proffil Canolfannau Ardal yng Nghaerdydd,
- darparu fframwaith a chyfiawnhad dros baratoi Cynlluniau Gweithredu unigol ar gyfer canolfannau ardal sydd â blaenoriaeth,
- bod yn fan cyswllt ar gyfer cydweithio rhwng darparwyr gwasanaeth,
- bod yn ddull o ddenu buddsoddiad a sicrhau ffynonellau cyllid,
- rhoi cyfarwyddyd ychwanegol i gefnogi polisïau eraill y Cyngor ar ganolfannau ardal, a
- chyfrannu at ddatblygiad cymdogaethau cynaliadwy.
Gallwch ddod o hyd i brojectau wedi'u cwblhau ar y wefan Datblygu ac Adfywio Caerdydd.
