Er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o'r Dreth Gyngor, mae angen i ni wybod pryd mae eich amgylchiadau'n newid. Gwnewch yn siŵr bod eich manylion yn union fel y maen nhw'n ymddangos yn eich bill.
Pan fyddwch chi'n agor y ffurflen dewiswch o'r opsiynau:
- Symud i Gaerdydd
Cwblhewch y ffurflen hon os ydydch yn symud i Gaerdydd neu ar fin dod yn atebol am dreth y cyngor mewn cyfeiriad yng Nghaerdydd. - Symud o Gaerdydd
Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn symud allan o Gaerdydd neu yn symud i eiddo lle na fyddwch yn atebol am y dreth gyngor mwyach. - Symud o fewn Caerdydd
Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn symud o un eiddo i eiddo arall yng Nghaerdydd ac yn atebol am y dreth gyngor yn y ddau gyfeiriad.
Ffurflen Newid Cyfeiriad y Dreth Gyngor
Os ydych chi eisoes yn byw yn yr eiddo ac mae rhywun arall yn symud i mewn gyda chi, defnyddiwch y ffurflen newid cyfeiriad i ychwanegu ei enw at eich cyfrif treth gyngor.
Os ydych wedi cwblhau ffurflen newid cyfeiriad yn ddiweddar ac yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, bydd unrhyw daliadau debyd uniongyrchol pellach sy'n mynd allan yn cael eu had-dalu unwaith y bydd eich cyfrif treth gyngor wedi'i ddiweddaru.
Os byddwch yn canslo eich debyd uniongyrchol cyn i'ch cyfrif gael ei ddiweddaru, byddwch yn ymwybodol y bydd hyn yn cynhyrchu bil yn awtomatig am weddill y flwyddyn. Byddwn yn anfon bil terfynol wedi'i ddiweddaru atoch unwaith y byddwn wedi cau'r cyfrif.
