Gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif treth gyngor ar-lein i wirio eich manylion:
- faint mae angen i chi ei dalu,
- pryd mae angen i chi dalu,
- y taliadau yr ydych eisoes wedi'u gwneud,
- unrhyw gostau sy'n ddyledus, a
- band prisio eich eiddo.
Bydd angen eich rhif cyfrif 8 digid arnoch. Gellir dod o hyd i hyn ar eich bil treth gyngor.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'ch enw cyntaf, eich enw olaf, a'ch cod post yn union fel y maen nhw ar eich bil.
Yn anffodus, os yw eich Cyfrif treth gyngor yn enw cwmni neu asiant eiddo, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i wybodaeth drwy dreth gyngor ar-lein.
Defnyddiwch y ffurflen gyswllt treth gyngor i gyflwyno eich ymholiad yn lle.
