Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Amhariad gwybyddol sylweddol

Gall person fod yn gymwys i gael eithriad neu ostyngiad Amhariad Gwybyddol Sylweddol (AGS) os yw wedi'i ardystio'n feddygol fel un sydd â chyflwr meddyliol difrifol a pharhaol, neu newid niwrolegol sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu, ac yn cael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd yr unigolyn hwnnw.

I gael gostyngiad, mae'n rhaid bod gan y person hefyd hawl i un o'r budd-daliadau cymwys.

  • Os ydych wedi cael diagnosis o AGS gan feddyg a'ch bod yn byw ar eich pen eich hun neu ddim ond gydag eraill sydd ag AGS, byddwch yn cael eich eithrio rhag talu'r Dreth Gyngor.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o AGS gan feddyg a'ch bod yn byw gydag un oedolyn sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor, bydd eich cartref yn cael gostyngiad o 25%.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o AGS gan feddyg a'ch bod yn byw gyda 2 neu fwy o oedolion sy'n gymwys i dalu'r Dreth Gyngor, ni fydd unrhyw ostyngiad.

Llenwch y ffurflen eithriad neu ostyngiad ar gyfer amhariad gwybyddol sylweddol ar wefan Llywodraeth Cymru.