Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gostyngiad treth gyngor i ofalwyr

Os ydych chi'n ofalwr, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich treth gyngor.

Gofalwyr di-dâl

Gallwch weld yr wybodaeth am ostyngiadau sydd ar gael i ofalwyr di-dâl.


Ydych chi'n gofalu am rywun nad yw'n bartner i chi, neu blentyn i chi o dan 18 oed?

Gallwch gael gostyngiad ar eich treth gyngor os:

  • ydych chi'n gofalu am o leiaf 35 awr yr wythnos
  • yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael budd-daliadau penodol
  • rydych chi'n byw gyda'r person rydych chi'n gofalu amdano, ac
  • rydych chi'n gofalu am rywun nad yw'n bartner i chi, neu blentyn i chi o dan 18 oed

Os hoffech chi wneud cais am ostyngiad, llenwch ein ffurflen gysylltu. Bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:

  • eich enw ac enw'r person rydych yn gofalu amdano,
  • eich rhif cyfrif treth gyngor,
  • eich cyfeiriad a chyfeiriad y person rydych yn gofalu amdano,
  • enw unrhyw un dros 18 oed sydd hefyd yn byw gyda chi,
  • pa fudd-daliadau y mae'r person rydych yn gofalu amdano yn eu derbyn,
  • nifer yr oriau yr ydych yn gofalu amdanynt bob wythnos, a'ch
  • perthynas â'r person rydych yn gofalu amdano.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ostyngiadau'r dreth gyngor yma.


Ydych chi'n gofalu am eich partner neu blentyn i chi o dan 18 oed?

Ni allwch gael gostyngiad gofalwr ar eich treth gyngor os ydych chi'n gofalu am eich partner, neu blentyn i chi sydd o dan 18 oed.

Gofalwr cyflogedig

Os ydych chi'n cael eich cyflogi fel gofalwr, efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad ar eich treth gyngor os:

  • ydych chi'n cael eich cyflogi gan unigolyn neu sefydliad i ofalu am rywun,
  • ydych chi'n darparu gofal am fwy na 24 awr yr wythnos,
  • nid ydych chi'n ennill mwy na £44 yr wythnos, ac
  • rydych chi'n byw gyda'r person rydych yn gofalu amdano, neu mewn llety a ddarperir gan eich swydd.

Os hoffech chi wneud cais am ostyngiad, llenwch ein ffurflen gysylltu. Bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:

  • eich enw ac enw'r person rydych chi'n gofalu amdano,
  • eich rhif cyfrif treth gyngor,
  • yr unigolyn neu'r sefydliad rydych yn gyflogedig ganddo,
  • nifer yr oriau yr ydych yn gofalu amdanynt bob wythnos,
  • eich enillion wythnosol,
  • eich cyfeiriad a chyfeiriad y person rydych yn gofalu amdano, ac
  • enw unrhyw un dros 18 oed sydd hefyd yn byw gyda chi.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ostyngiadau'r dreth gyngor yma.

Os ydych mewn cartref gofal, ysbyty neu wedi symud i gartref eich gofalwr

Os ydych chi'n symud, neu os ydych chi wedi symud allan o'ch cartref i dderbyn gofal, rhowch wybod i ni gan y gallwn newid eich bil.

Byddwch wedi'ch eithrio rhag talu'r dreth gyngor os:

  • ydych chi'n byw mewn cartref gofal neu gartref nyrsio,
  • ydych chi'n aros yn barhaol yn yr ysbyty neu mewn hosbis, neu
  • rydych chi wedi symud i mewn i gartref eich gofalwr.

Bydd eich eiddo wedi'i eithrio dim ond os nad yw'n wag. Os oes rhywun arall yn dal i fyw yn yr eiddo neu'n symud i mewn, yna nhw fydd yn gyfrifol am dalu'r dreth gyngor.

Os hoffech chi wneud cais am ostyngiad, l lenwch ein ffurflen gysylltu. Bydd angen i chi roi'r canlynol i ni:

  • eich enw,
  • eich rhif dreth gyngor,
  • a ydych wedi gadael eich tŷ i gael gofal
  • y dyddiad y gadawyd yr eiddo, a'ch
  • cyfeiriad newydd.