Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Eithriadau'r Dreth Gyngor

Eiddo eithriedig​

Gallai eiddo gael ei eithrio o’r Dreth Gyngor yn yr amgylchiadau canlynol:​

  • Mae angen gwaith atgyweirio strwythurol arno, neu mae hyn ar waith neu wedi cael ei wneud. Rhaid i'r eiddo hefyd fod heb ei ddodrefnu i raddau helaeth (wedi'i eithrio am hyd at 12 mis)
  • Mae heb ei feddiannu ac yn eiddo i elusen (wedi’i eithrio am hyd at chwe mis)
  • Mae heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu i raddau helaeth (wedi’i eithrio am hyd at chwe mis)
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sydd yn y carchar
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sydd yn yr ysbyty neu mewn cartref nyrsio neu ofal yn barhaol 
  • Mae heb ei feddiannu oherwydd marwolaeth y preswylydd/preswylwyr (wedi'u heithrio am hyd at 6 mis ar ôl profiant/llythyrau gweinyddu). DS Dim ond pan fo'r eiddo wedi bod yn wag ers dyddiad y farwolaeth y mae'r eithriad hwn yn gymwys.
  • Mae’r gyfraith yn gwahardd meddiannu’r eiddo
  • Mae heb ei feddiannu ac wedi’i ddal ar gyfer gweinidog crefyddol
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy’n derbyn gofal mewn lle arall (heblaw am ysbyty, cartref nyrsio neu gartref gofal)
  • Mae wedi’i adael heb ei feddiannu gan berson/bobl sy’n byw ac yn rhoi gofal yn rhywle arall
  • Mae heb ei feddiannu ac yn eiddo i fyfyriwr a phan oedd wedi’i feddiannu diwethaf, roedd yn annedd y myfyriwr hwnnw ac nid oedd unrhyw un arall ar wahân i fyfyrwyr yn byw yno.
  • Eiddo a adfeddiannwyd ac heb ei feddiannu​
  • Mae’n neuadd breswyl yn bennaf ar gyfer llety myfyrwyr
  • Mae wedi’i feddiannu gan fyfyriwr/fyfyrwyr yn unig. Mae hyn hefyd yn cynnwys gŵr, gwraig neu ddibynnydd myfyriwr nad yw'n Ddinesydd Prydeinig ac sy'n cael ei atal rhag gweithio neu hawlio budd-dal
  • Mae’n eiddo’r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn
  • Mae wedi’i feddiannu gan aelodau o luoedd sy’n ymweld
  • Mae heb ei feddiannu ac yn cael ei ddal gan ymddiriedolwr mewn methdaliad
  • Mae’n llain carafán neu’n angorfa cwch heb ei meddiannu
  • Mae’n cael ei feddiannu gan berson/bobl dan 18 oed yn unig
  • Anecs heb ei feddiannu
  • Mae wedi'i feddiannu ond gan berson/bobl sydd â nam meddyliol difrifol
  • Mae’n eiddo sydd wedi’i feddiannu gan ddiplomyddion penodol
  • Mae’n rhandy neu’n rhan hunangynhwysol o eiddo sydd wedi’i feddiannu gan berthynas oedrannus neu anabl i’r preswylydd sy’n byw yng ngweddill yr eiddo
  • Mae’n eiddo y mae pobl sy’n gadael gofal yn unig yn byw ynddo. 
 

Sylwer, os yw eiddo'n cael ei feddiannu gan fyfyrwyr, pobl sy'n gadael gofal neu bobl â nam meddyliol difrifol yn unig neu unrhyw gyfuniad o'r rhain, gall eithriad fod yn berthnasol.​



Pobl sy’n gadael gofal


Gall rywun sy’n gadael gofal gael ei eithrio rhag gorfod talu os yw’n byw ar ei ben ei hun neu gyda phobl eraill sy’n gadael gofal neu fyfyrwyr yn unig.

Os yw’n byw gydag oedolion eraill, gall fod yn gymwys i gael gostyngiad diystyru o 25%.

Mae'r person sy'n gadael gofal yn 24 oed neu'n iau ac mae'n berson ifanc categori 3 fel y'i diffinnir gan adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.


© 2022 Cyngor Caerdydd