Cynhelir o leiaf dri chyfarfod yn ystod y flwyddyn ariannol:
1. Rhwng mis Mai - ystyrir effeithiau'r gyllideb flaenorol a nodir materion ar gyfer y gyllideb sydd i ddod.
2. Tua Hydref/Tachwedd - ystyrir y gyllideb sydd i ddod.
3. Ar ddechrau mis Ionawr - ystyrir y setliad cyllideb refeniw.
Caiff cyfarfodydd pellach eu trefnu, drwy gytundeb y Cadeirydd, i ystyried materion ehangach o'r fformiwla, y cynllun ar gyfer ariannu ysgolion, y setliad cyllideb refeniw, caffael a materion contractau.
Bydd aelodau sy'n 'eilyddio' yn cael gwybod ymlaen llaw a oes angen iddynt fynychu cyfarfod. Bydd cworwm mewn Fforwm os yw o leiaf 40% o'r aelodaeth gyfan yn y cyfarfod (gan gynnwys aelodau sy'n 'eilyddio').
Amser a lleoliad
Bydd y Fforwm yn cytuno ar ddyddiadau, amseroedd a lleoliadau pob cyfarfod. Cytunir ar ddyddiad cyfarfodydd yng nghyfarfod olaf pob blwyddyn academaidd. Os bydd angen canslo neu ddiwygio cyfarfod a drefnwyd, Cadeirydd y Fforwm fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad hwn.
Yng nghyfarfod olaf y flwyddyn academaidd, bydd y Fforwm hefyd yn gweithio gyda swyddogion o'r Awdurdod Lleol i baratoi a chytuno ar flaengynllun gwaith ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
Cyfarfodydd Blaenorol
| Dyddiad | Amser | Lleoliad | Agenda, cofnodion ac adroddiadau |
|---|---|---|---|
| 14 Ionawr 2026 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 8 Medi 2025 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 2 Gorffennaf 2025 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 7 Mai 2025 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 12 Mawrth 2025 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 15 Ionawr 2025 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 13 Tachwedd 2024 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 25 Medi 2024 | 8:30am | Microsoft Teams | |
| 26 Mehefin 2024 | 8:30am | Microsoft Teams |
