Mae tair ffordd wahanol o ddod o hyd i fanylion cyswllt ein hysgolion a llywodraethwyr.
Os hoffech gysylltu â llywodraethwr, cysylltwch â'r pennaeth neu ysgrifennwch at gadeirydd y llywodraethwyr gyda chyfeiriad yr ysgol.
Chwilio am ysgol
Gallwch chwilio am ysgol yn ôl:
- lleoliad,
- math,
- ward yng Nghaerdydd,
- enw'r Pennaeth,
- iaith (Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog), neu
- ran o'r cyfeiriad.
Ysgolion yn eich ardal chi
Gallwch ddod o hyd i'ch ysgol a'ch dalgylch agosaf drwy nodi cod post.
Dalgylchoedd
Nid oes rhaid i blentyn fyw mewn dalgylch ysgol i fod yn gymwys i fynychu'r ysgol.
Nodwch eich cod post i weld pa ddalgylch rydych chi'n byw ynddo. Bydd y canlyniadau'n dangos gwybodaeth am ddalgylchoedd:
- Ysgolion Cynradd Cymunedol Saesneg
- Ysgolion Uwchradd Cymunedol Saesneg
- Ysgolion Cynradd Cymunedol Cymraeg
- Ysgolion Uwchradd Cymunedol Cymraeg
Bydd angen i chi nodi cod post eich cartref i chwilio. Os yw eich plentyn yn byw gyda mwy nag un rhiant, defnyddiwch ei brif gyfeiriad.
Agorodd ysgol gynradd newydd, Ysgol Gynradd Groes-Wen, ym mis Medi 2023. Wedi'i lleoli yn natblygiad Plasdŵr ar dir i'r de o Heol Llantrisant, mae'r ysgol newydd yn gwasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd. Nid yw dalgylch wedi ei sefydlu eto.
Mae'r ysgol yn ysgol dwy ffrwd, wedi ei threfnu fel un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig model iaith ddeuol - 50% addysg cyfrwng Saesneg a 50% addysg Gymraeg.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Ysgol Gynradd Groes-wen.
Sefydlwyd ysgol gynradd gymunedol cyfrwng Saesneg newydd, Ysgol Gynradd Howardian, ym Mhen-y-lan ym mis Medi 2015. Nid oes dalgylch wedi'i sefydlu ar gyfer yr ysgol hyd yn hyn.
Ysgolion Saesneg
Gweld dalgylchoedd ysgolion cynradd Caerdydd ar y map.
Gweld Dalgylchoedd ysgolion uwchradd Caerdydd ar y map.
Dyrannu lleoedd
Nodwch na allwn sicrhau lle i'ch plentyn yn ysgol eich dalgylch. Caiff lleoedd eu dyrannu yn dibynnu ar argaeledd yn y grŵp blwyddyn perthnasol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth neu gyngor arnoch ar ddalgylchoedd, cysylltwch â ni.
Niferoedd disgyblion
Mae gan wefan Stats Cymru wybodaeth am niferoedd disgyblion mewn ysgolion ledled Cymru.
