Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Addysg heblaw yn yr ysgol

Mae addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) yn ddarpariaeth addysgol a drefnir gan yr awdurdod lleol i ddiwallu anghenion penodol plant a phobl ifanc nad ydynt, am ba reswm bynnag, yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd neu ysgol awdurdod lleol.

Plant a phobl ifanc sy'n derbyn AHY yw rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed ac mae'n flaenoriaeth sicrhau eu bod yn cael addysg addas, sydd o ansawdd da ac y gallant symud ymlaen ynddi.

Rhai o'r darpariaethau sy'n dod o dan gategori AHY yw:

  • Y Deryn, sef ein Huned Cyfeirio Disgyblion (HCD), a
  • T.E.A.M@Severn, sef ein Tîm Addysgu Cymunedol.

Pan fydd yr awdurdod lleol wedi lleoli dysgwyr mewn ysgolion arbennig annibynnol a rhai nas cynhelir, fel arfer drwy eu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Cynllun Datblygu Unigol (CDU), yna mae'r darpariaethau hyn hefyd yn cael eu categoreiddio fel AHY.

Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella deilliannau i ddysgwyr sy'n derbyn AHY ac mae wedi cynhyrchu'r cynllun hirdymorFframwaith Gweithredu ar gyfer darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol.

Cysylltu â ni