Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ehangu'r ddarpariaeth addysgu arbenigol yng Nghaerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi cynlluniau i ehangu nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion arbennig a chanolfannau adnoddau arbenigol (CAAau) yn y ddinas. Nod hyn yw sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu yn ein hysgolion.

Y nod yw:

  • darparu mynediad cyfartal i addysg a chymorth arbenigol,
  • lleihau dibyniaeth ar leoliadau annibynnol costus, a
  • sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at gymorth yn agos at eu cartref.

Mae'r ehangiad hwn yn golygu bod angen cynnydd mewn athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu.

Sut i wneud cais

Gallwch ymgeisio am rolau cynorthwy-ydd addysgu a dysgu ar wefan eTeach.

Dysgwch fwy am ddod yn athro arbenigol

Gallwch ddysgu mwy am ddod yn athro arbenigol yng Nghaerdydd.

Gallwch wylio mwy o fideos ar ein sianel YouTube.

 

Strategaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd

Mae'r ymgyrch recriwtio yn dilyn cyhoeddi Strategaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd. Ein gweledigaeth yw 'gweithio gyda'n gilydd a chymryd cyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Caerdydd yn llwyddo ac yn teimlo eu bod yn perthyn'.

Mae'r egwyddorion allweddol yn cynnwys:

  • Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob dysgwr,
  • Sicrhau bod amrywiaeth yn cael ei ddathlu a gwerthoedd cynhwysol yn cael eu hymgorffori mewn ymarfer bob dydd,
  • Blaenoriaethu lles a mynediad cyfartal at gymorth arbenigol.

Dysgwch fwy am y Strategaeth Cynhwysiant Addysg a sut mae'n adeiladu amgylchedd addysgol mwy cynhwysol a chefnogol yng Nghaerdydd.


Meysydd ar gyfer gweithredu

Mae ein meysydd gweithredu yn cynnwys:

  • Dyfnhau ac ymgorffori ymarfer cynhwysol: Hyrwyddo diwylliant lle mae pob dysgwr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys.
  • Cryfhau ymgysylltiad dysgwyr: Sicrhau bod dysgwyr yn cyfrannu'n weithredol at eu haddysg.
  • Y ddarpariaeth gywir a'r cymorth gorau: Addasu'r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion amrywiol, gan gynnwys ehangu CAAau.
  • Diwallu anghenion pob dysgwr: Cynyddu lleoedd arbenigol lleol a chefnogi ysgolion prif ffrwd i nodi a mynd i'r afael ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
  • Cefnogi a chryfhau'r gweithlu: Buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol ac arallgyfeirio'r gweithlu addysg.