Y Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion sy'n darparu prydau mewn ysgolion.
Ysgolion gynradd
Gweler:
- Bwydlen lawn prydau Ysgol Gynradd (PDF, 452 KB)
- Matrics gwybodaeth am alergenau (Ysgolion Cynradd) (PDF, 165 KB)
Prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd
Mae pob disgybl ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn cael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Cysylltwch ag ysgol gynradd eich plentyn i gofrestru.
Os oes gan eich cartref incwm isel, gallwch hefyd wneud cais am y grant hanfodion ysgol i helpu gyda chostau eraill sy'n gysylltiedig â'r ysgol.
Ysgolion uwchradd
Gweler:
- Rhestr Brisiau i Fyfyrwyr (Ffres and Ffres 2 Go) - Ebrill 2025 (PDF, 2 MB)
- Matrics gwybodaeth am alergenau (Ysgolion Uwchradd) (PDF, 294 KB)
Gwneud cais am brydau ysgol am ddim i ddisgyblion ysgol uwchradd
Gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn:
- Cymhorthdal Incwm,
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm,
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm,
- Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol,
- Credyd Treth Plant gydag incwm o lai na £16,190, neu
- Credyd Cynhwysol os yw enillion net yr aelwyd yn llai na £7,400.
Os oes gan eich cartref incwm isel, gallwch wneud cais am y grant hanfodion ysgol i helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â'r ysgol.
