Mae pob disgybl ysgol gynradd yng Nghaerdydd yn cael prydau ysgol am ddim drwy'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd. Cysylltwch ag ysgol gynradd eich plentyn i gofrestru.
Os oes gan eich cartref incwm isel, gallwch hefyd wneud cais am y grant hanfodion ysgol i helpu gyda chostau eraill sy'n gysylltiedig â'r ysgol. Bydd disgyblion uwchradd yn cael prydau ysgol am ddim os yw eu teulu'n derbyn:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Treth Plant ag incwm blynyddol sy'n llai na £16,190 neu
- Credyd Cynhwysol os mae enillion net y teulu yn llai na £7400
*Ni all teuluoedd sy'n cael Credyd Treth Gwaith fanteisio ar brydau ysgol am ddim.
Unwaith rydych wedi danfon cais i mewn, byddwch yn cael eich hysbysi yn ysgrifenedig o'r canlyniad.
Os ydych chi'n gymwys am brydau ysgol am ddim, caiff ysgol eich plentyn ei hysbysu fel y gall ddiweddaru ei gofnodion.
Caiff prydau ysgol am ddim eu dyfarnu i bob plentyn ar wahân ac nid i'r cartref.
Nid oes angen i chi ailymgeisio os yw eich plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref. Pan gawn ein hysbysu gan ysgol newydd eich plentyn ei fod yn ddisgybl yno, byddwn yn diwygio ein cofnodion ac yn hysbysu'r ysgol o'ch cymhwysedd.
Gwneud cais am brydau ysgol am ddim
Newidiadau o 1 Ebrill 2019
Bydd unrhyw ddisgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar 1 Ebrill 2019 yn dal yn gymwys hyd at 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid. Gelwir hyn yn amddiffyn wrth bontio.
Os yw disgybl yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan feini prawf newydd Credyd Cynhwysol o 1 Ebrill 2019, byddant hefyd yn dal yn gymwys hyd at 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid.
Pan fydd Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno, bydd y disgyblion hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim nes iddynt adael eu cyfnod ysgol presennol. Er enghraifft, tan ddiwedd yr ysgol gynradd neu uwchradd.
O 1 Ionawr 2024 ni fydd dyfarniadau newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cael eu diogelu, a gallai unrhyw newidiadau i amgylchiadau effeithio ar gymhwysedd.
Os hoffech fwy o gwybodaeth mae llywodraeth Cymru wedi creu dogfen am Cwestiynau Cyffredin.
I gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim neu laeth am ddim.
Ffôn: 029 2087 1071
