Mae'r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu teuluoedd ar incwm isel, gyda phlant sy'n mynychu ysgol gynradd neu uwchradd a gynhelir.
Gallwch ddefnyddio'r grant i brynu pethau fel:
- gwisg ysgol,
- dillad chwaraeon,
- gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, fel chwaraeon cymunedol
- bagiau ysgol, a
- deunydd ysgrifennu.
Ni chewch ddefnyddio'r grant hwn i brynu offer TG.
Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol gynradd neu uwchradd
Gallech gael grant o £200 y plentyn os ydynt yn dechrau blwyddyn 7.
Gallech dderbyn grant o £125 y plentyn os ydynt yn mynd i'r ysgol gynradd neu ym mlynyddoedd 8, 9, 10 neu 11.
Os yw eich plentyn yn mynychu lleoliad addysgol arbennig
Gallech hefyd dderbyn y grant hwn os yw'ch plentyn rhwng 4 a 15 oed, a'i fod wedi cofrestru un ai mewn:
- ysgol arbennig,
- canolfan adnoddau anghenion arbennig, neu
- uned cyfeirio disgyblion.
Plant sy'n derbyn gofal
Mae plant o dan ofal y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gymwys i gael y grant os ydynt:
- o oedran ysgol gorfodol, ac
- yn mynychu ysgol yng Nghaerdydd.
Ceiswyr lloches, a'r rhai nad ydynt yn gymwys i hawlio budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig
Os ydych chi'n geisiwr lloches neu'n deulu nad yw'n gymwys i hawlio budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig, mae gennych hawl i gael grant ar gyfer y flwyddyn 2025 i 2026 os yw'ch plentyn:
- yn mynd mewn i unrhyw grŵp blwyddyn cynradd, neu
- yn mynd mewn i flynyddoedd 7 i 11.
Os oes gennych god rhannu, bydd angen i chi gyflwyno hwn. Gallwch gael eich cod rhannu o wefan Llywodraeth y DU.
Pwy all wneud cais
I wneud cais, rhaid i chi fod yn hawlio naill ai:
- Cymhorthdal Incwm,
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm),
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm),
- Credyd Treth Plant, gydag incwm cartref o £16,190 neu lai,
- Credyd Pensiwn (elfen gwarantiedig), neu
- Gredyd Cynhwysol gydag enillion aelwyd net o lai na £7,400
Os ydych yn derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd amddiffyn wrth bontio byddwch yn gymwys dim ond os ydych yn bodloni'r meini prawf.
Os ydych yn bodloni'r meini prawf, cwblhewch y ffurflen gais am Grant Hanfodion Ysgol. Byddwn yn gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer y tâl hwn gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith, ni fydd gennych hawl i'r grant.
Sut i wneud cais
Gwneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol
Os oes angen help arnoch neu os oes unrhyw gwestiynau gennych, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 1071
