Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Caerdydd 2030

Bydd Caerdydd 2030​​​​ (PDF, 3 MB) gweledigaeth ddeng mlynedd ar gyfer Prifddinas Dysgu a Chyfle yn parhau â'r cynnydd a'r cyflawniadau a wnaed ar draws system addysg y ddinas dros y pum mlynedd diwethaf, ers lansio Caerdydd 2020​. Ei nod fydd parhau â'r gwelliannau hyn gyda chwmpas ehangach a mwy o uchelgais ar gyfer dysgu yng Nghaerdydd ar gyfer y dyfodol, gan groesawu dysgu y tu hwnt i addysg statudol ffurfiol. 

Mae Caerdydd 2030 yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol, wedi'i seilio ar ddwy thema, pum nod  blaenoriaethau pwysig;

Themâu:

  • Cyfrifoldeb cyffredin am addysg a dysgu ar draws y ddinas, 
  • Cyfranogiad ystyrlon plant a phobl ifanc

Nodau:

  • Hawl i Ddysgu 
  • Iechyd a lles dysgwyr
  • Gwireddu Cwricwlwm Cymru 2022 yng Nghaerdydd
  • Gweithlu addysg o'r radd flaenaf 
  • Amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel