Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ymddiriedolaeth Howardian

Elusen Gofrestredig yw Ymddiriedolaeth Howardian, a sefydlwyd i roi cymorth ariannol at ddibenion addysgol cyffredinol nad ydynt fel arfer yn cael eu hariannu'n statudol.

Mae arian ar gael ar gyfer rhai sy'n perthyn i un o'r categorïau canlynol:

  • ​Plant a phobl ifanc rhwng 3 a 25 oed a fynychodd Ysgol Uwchradd Howardian cyn 31 Awst 1990.
  • Plant a phobl ifanc rhwng 3 a 25 a fynychodd Ysgol Fabanod neu Iau Marlborough, Ysgol Gynradd Parc y Rhath neu Ysgol Gynradd Albany Road, Caerdydd ar ôl 31 Awst 1988.
  • Ysgolion Cynradd, Babanod ac Iau yr ysgolion a enwyd uchod ac unrhyw grwpiau eraill sy'n weithredol yn nalgylch Ysgol Uwchradd Howardian.

Yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr y dyfernir yr arian. Yn y gorffennol, rhoddwyd cymorth i ddisgyblion oedd yn dilyn cyrsiau ôl-radd a mynediad, costau teithio i fynychu cwrs a chymorth i ysgolion brynu offer.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Addysg
Ystafell 309
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

Cofiwch: Ni ellir gwneud cais am wobr ar hyn o bryd.