Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol yn dîm o Seicolegwyr Addysg cymwys.
Rydym yn gweithio gyda disgyblion rhwng 0 a 19 oed ac yn defnyddio ein gwybodaeth am seicoleg i sicrhau newid cadarnhaol.
Mae gan bob ysgol Seicolegydd Addysg a enwir, sydd â swm penodol o amser. Rydym yn gweithio'n agos gyda staff mewn ysgolion, yn enwedig y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY).
Yr hyn rydym yn ei wneud
Mae'r gwaith a wnawn fel arfer wedi'i gynllunio gyda'r Cydlynydd ADY ar ddechrau blwyddyn academaidd. Yn y cyfarfod cynllunio, bydd y Cydlynydd ADY a'r SA yn ystyried pa gymorth sydd ei angen ar lefel ysgol gyfan, dosbarth ac unigol.
Mae ein gwaith yn cael ei ddisgrifio orau ar 3 lefel:
Gwaith anuniongyrchol (Lefel 1)
Nod ein gwaith anuniongyrchol yw cael effaith ar draws ysgol neu glwstwr cyfan. Mae clwstwr yn grŵp o ysgolion sy'n bwydo i mewn i ysgol uwchradd.
Mae rhai o'n gweithgareddau yn cynnwys:
- goruchwylio a hyfforddiant staff,
- trafodaethau datrys problemau,
- fforymau amlddisgyblaethol, a
- chyfarfodydd cymorth clwstwr.
Rydym yn cynnig hyfforddiant i staff yr ysgol y gellir ei drefnu drwy wefan Gwasanaethau Addysg Caerdydd.
Ymgynghori (Lefel 2)
Mae ymgynghori yn ddull datrys problemau cydweithredol sy'n canolbwyntio ar sicrhau newid cadarnhaol. Ni fyddwn yn cynnal ymgynghoriadau sy'n canolbwyntio ar unigolion heb ganiatâd rhieni. Dylai'r ymgynghoriadau gynnwys yr oedolion mwyaf perthnasol. Er enghraifft, athro dosbarth a rhieni.
Yn ystod y broses, efallai y bydd angen i ni gael mwy o wybodaeth. Gall hyn gynnwys gwaith uniongyrchol gan SA gyda disgybl, grŵp, dosbarth, rhiant neu aelod o staff.
Byddwn yn adolygu'r cynnydd yn rheolaidd.
Cyngor seicolegol (Lefel 3)
Yn rhan o hyn, mae'r SA yn archwilio cryfderau ac anghenion person ifanc ym mhob maes datblygu. Byddwn yn darparu disgrifiad llawn o'u hanghenion a'r ddarpariaeth sydd ei hangen.
Cymorth gyda digwyddiadau critigol
Mae is-grŵp bach o SAau yn y tîm yn darparu cymorth i ysgolion mewn achos o ddigwyddiad critigol.
Rydym wedi creu canllaw sy'n amlinellu dulliau sy'n ddefnyddiol mewn achos o ddigwyddiad critigol. Mae gan bob ysgol gopi o'r canllaw.
Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (CCLlEau)
Mae CCLlEau yn cefnogi lles emosiynol plant a phobl ifanc. Mae'r ymyrraeth hon yn cael ei harwain gan seicoleg addysgol.
Gall cynorthwywyr addysgu gael mynediad at hyfforddiant CCLlE i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni unigol i gefnogi anghenion emosiynol plant a phobl ifanc.
Rydym yn cyfrannu at hyfforddiant CCLlE fel rhan o Gonsortiwm Canolbarth y De, ochr yn ochr ag SAau o Ferthyr, Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Cyflwynir hyfforddiant bob tymor a gellir ei drefnu drwy e-bost: [email protected].
Mae CCLlEau hyfforddedig yn cael goruchwyliaeth grŵp reolaidd gan aelodau o'r gwasanaeth SA. Mae mynychu goruchwyliaeth yn ofyniad i ymarfer fel CCLlE mewn ysgol.
Cael cymorth
I ofyn am gymorth gan SA, siaradwch â'r Cydlynydd ADY yn ysgol eich plentyn.
Bydd angen i chi a'r ysgol lenwi ffurflen gais am ymgynghoriad. Rhaid llofnodi hon i wneud yn siŵr bod caniatâd i waith gael ei wneud.
