Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Strategaeth Cynhwysiant Addysg

Mae Strategaeth Cynhwysiant Addysg 2025 wedi'i fframio o gylch y syniad o berthyn. Dyma ystyr Cynhwysiant i ni yng Nghaerdydd - rydyn ni eisiau i bob plentyn a pherson ifanc deimlo eu bod yn perthyn i'w hysgol neu leoliad.

Ein gweledigaeth yw gweithio gyda'n gilydd a chymryd cyfrifoldeb ar y cyd ros sicrhau bod holl blant a phobl ifanc Caerdydd yn llwyddo ac yn teimlo eu bod yn perthyn.

Mae llawer i'w ddathlu yng Nghaerdydd ac mae ein Strategaeth Cynhwysiant yn adeiladu ar y cryfderau a'r ymarfer rhagorol sy'n bodoli yn ein system addysg.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ysgolion a lleoliadau addysg wedi dangos gwytnwch rhyfeddol, gan addasu i'r heriau a ddaeth yn sgil y pandemig ac ymateb i anghenion esblygol dysgwyr.

Rydym yn uchelgeisiol dros ein dysgwyr, ac mae eisiau ac angen i ni wneud mwy i helpu ein dysgwyr i gyd i ffynnu a chyflawni. Mae ein data yn dangos bod dangosyddion cynhwysiant yn cyfateb yn gryf â nifer o ffactorau fel:

  • cefndir economaidd-gymdeithasol, ac
  • anghenion dysgu ychwanegol.

Ychydig fydd yn synnu at hyn, ac all neb ohonom fod yn fodlon â hyn. Os yw pob plentyn a pherson ifanc yn perthyn ac yn llwyddo:

  • ni fyddai unrhyw blentyn neu berson ifanc yn cael ei eithrio o'r ysgol
  • byddai pob plentyn a pherson ifanc mewn darpariaeth briodol i'w hanghenion, a
  • byddai pob person ifanc yn gwneud cynnydd cadarnhaol i addysg ôl-16, neu gyflogaeth neu hyfforddiant.

Rydyn ni'n gwybod bod y rhain yn bethau anodd i'w cyflawni, ond dyma'r uchelgeisiau a'r dyheadau a fydd yn ein harwain ni.

5 maes allweddol y strategaeth

Mae'r strategaeth yn nodi pum maes gweithredu allweddol ac yn nodi'r hyn rydyn ni'n mynd i'w wneud i wneud gwahaniaeth i'n dysgwyr:

Dyfnhau ac ymgorffori ymarfer cynhwysol

Mae hyn yn cynnwys datblygu Fframwaith Cynhwysiant Caerdydd i sicrhau bod pob ysgol yn dathlu amrywiaeth ac yn cefnogi lles disgyblion. Rydyn ni hefyd eisiau sicrhau bod cynhwysiant wedi'i ymgorffori yn ein trefniadau gwella ysgolion newydd - gan adeiladu ar y gwaith y mae Dysgu Cydweithredol mewn Partneriaethau (DCMPau) yn ei wneud i wella presenoldeb.

Cryfhau ymgysylltiad dysgwyr

Mae darllen, lleferydd, iaith a chyfathrebu yn greiddiol i gynhwysiant. Byddwn yn blaenoriaethu hyn ac yn datblygu dealltwriaeth athrawon o'r broses ddysgu i helpu i ateb gwahanol anghenion. Mae enghreifftiau eraill o'n camau gweithredu yn cynnwys datblygu dull Caerdydd gyfan o ddefnyddio ffonau clyfar mewn ysgolion.

Y ddarpariaeth gywir a'r cymorth gorau

Rydyn ni wedi dechrau ail-fodelu darpariaeth amgen ar gyfer dysgwyr a'r rhai sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol - byddwn yn cynnal y momentwm. Mae newidiadau eraill rydyn ni'n dymuno eu gweld yn cynnwys sicrhau bod gennym ymateb graddedig clir a dulliau aml-asiantaeth o ddelio â phresenoldeb ac ymddygiad heriol.

Diwallu anghenion pob dysgwr

Bydd gwella sgiliau athrawon mewn addysgu addasol a gwella'r gallu i adnabod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) yn gynt yn ein helpu i wneud yn siŵr bod pob athro'n teimlo'n hyderus i fod yn athrawon ADY. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod ysgolion prif ffrwd yn gallu darparu ar gyfer y mwyafrif helaeth o anghenion dysgwyr. Rydym yn cydnabod fodd bynnag y byddai darpariaeth fwy arbenigol yng Nghaerdydd yn lleihau dibyniaeth ar leoliadau annibynnol costus.

Cefnogi a chryfhau'r gweithlu

Defnyddio sgiliau, gwybodaeth, profiad ac ymroddiad ein gweithlu yw'r ffordd fwyaf pwerus sydd gennym o ysgogi newid. Rydyn ni hefyd eisiau i'n gweithlu deimlo eu bod yn perthyn i'w hysgol neu leoliad ac i Gaerdydd fel cymuned ddysgu. Rydyn ni am i'n hymarfer a'n dulliau dysgu fod yn ystyriol o drawma ymhob ysgol. Bydd strategaeth gweithlu yn ein helpu i gynyddu amrywiaeth y gweithlu a datblygu arbenigedd arbenigol i fodloni anghenion esblygol.

 

Mae'r canlynol ar gael i'w darllen: