Mae'r Polisi Chwythu'r Chwiban yn nodi sut y gall gweithwyr godi pryderon heb ofn erledigaeth, gwahaniaethu neu anfantais. Chwythu'r chwiban yw'r term a ddefnyddir pan fydd gweithiwr yn trosglwyddo gwybodaeth am gamweddau yn y gwaith.
Rydym wedi ymrwymo i'r safonau uchaf posibl o uniondeb, atebolrwydd a bod yn agored. Fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw, rydym yn disgwyl i weithwyr a chontractwyr sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd ar ein gwaith ddod ymlaen a lleisio'r pryderon hynny.
Os ydych chi'n weithiwr Cyngor Caerdydd, ewch i'r tudalennau AD ar y fewnrwyd i gael mwy o wybodaeth.
Mae staff contractwyr wedi'u cynnwys ym Mholisi Chwythu'r Chwiban y Cyngor hefyd a dylent roi gwybod i ni am unrhyw bryderon am faterion yr ydym ni yn gyfrifol amdanynt neu am ymddygiad staff y cyngor.
Byddwn yn ymchwilio i unrhyw bryderon yn llawn ac yn deg, a byddant yn cael eu cadw'n gyfrinachol.
Darllenwch y Polisi Chwythu'r Chwiban (PDF, 221 KB)
