Datganiad gwirfoddol o gyd-gymorth yw Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog rhwng y gymuned sifil a'r gymuned Lluoedd Arfog leol. Mae ar gyfer personél sy'n gwasanaethu neu gyn-filwyr.
Nod y cyfamod yw annog dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar y Gymuned Lluoedd Arfog. Mae hefyd yn rhan bwysig o helpu'r gymuned honno i ymaddasu i fod yn sifiliaid eto.
Cytunwyd ar y Cyfamod gan gymuned y lluoedd arfog a'r gymuned sifil yng Nghaerdydd a gynrychiolir gan ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus, diwydiant preifat, elusennau, grwpiau cymunedol ac aelodau unigol o'r cyhoedd.
