Mae cyfranogiad y cyhoedd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich llais yn greiddiol i'r broses o wneud penderfyniadau. Mae cymryd rhan yn rhoi'r cyfle i chi leisio eich anghenion a'ch dyheadau ac mae'n ein galluogi ni i ymateb.
Mae ein Strategaeth Cyfranogiad yn nodi ein hymrwymiad i gryfhau cyfranogiad ac ymgysylltu. Mae'n torri ein cynllun i lawr yn gamau gweithredu i sicrhau bod pob llais yn y ddinas yn cael ei glywed. Diben y strategaeth yw meithrin perthynas â chymunedau yn seiliedig ar ymddiriedaeth.
Gallwch ddarllen y strategaeth yn Saesneg, Cymraeg, Arabeg, Bengaleg, neu Bwyleg.
