Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Y Cynllun Corfforaethol

Rydym wedi nodi uchelgais glir ar gyfer Caerdydd, i adeiladu prifddinas gryfach, decach a gwyrddach.

Mae'r Cynllun Corfforaethol hwn yn nodi sut mae'r uchelgais hwnnw'n cael ei droi'n weithredu. Mae'n cynnig y fframwaith a fydd yn galluogi'r Cyngor i alinio ei adnoddau i wireddu ein huchelgeisiau, gan sicrhau bod ein blaenoriaethau yn cael eu cefnogi gan gyflawniad disgybledig ac effeithiol.

Bedair blynedd wedi gosod yr uchelgais hwnnw, gallwn edrych yn ôl yn hyderus ar y cynnydd a wnaed. Er gwaethaf effeithiau parhaol y pandemig, yr heriau costau byw, y galw cynyddol a chynyddol gymhleth am wasanaethau, a phwysau ariannol parhaus ar draws llywodraeth leol, mae Caerdydd wedi parhau i symud ymlaen.

Rydym wedi parhau i godi safonau ym maes addysg, gan gyflawni 25 o brosiectau mawr ar gyfer ysgolion - o ysgolion newydd sbon i ehangu sylweddol ar adeiladau a darpariaeth arbenigol - gan gryfhau safle Caerdydd fel un o'r ardaloedd addysg sy'n perfformio orau yng Nghymru. Rydym yn bwrw ymlaen ag un o'r rhaglenni adeiladu tai cyngor mwyaf uchelgeisiol yn y wlad, gyda 1,800 o gartrefi eisoes wedi'u darparu ac ymrwymiad hirdymor i gwblhau 4,000 erbyn 2035, gan gynyddu'r cyflenwad fforddiadwy yn sylweddol. Yn ogystal, mae ein Tîm Cyngor Ariannol wedi helpu preswylwyr i sicrhau mwy na £68 miliwn mewn cymorth budd-daliadau ychwanegol, tra bod miloedd o bobl wedi cael eu cefnogi i mewn i waith.

Rydym hefyd wedi gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus ac wedi symud tuag at gam cyflawni prosiect Cledrau Croesi Caerdydd. Mae'r buddsoddiad ym Mae Caerdydd yn parhau, gyda'r Arena Dan Do newydd yn rhan o raglen adfywio ehangach, law yn llaw â buddsoddiad parhaus mewn canolfannau ardal, Hybiau, llyfrgelloedd a pharciau. A thrwy Caerdydd Un Blaned, rydym wedi trosi uchelgais hinsawdd yn gyflawniad ymarferol, ar ôl cwblhau rhwydwaith gwres cyntaf y ddinas.

Mae asesiad annibynnol gan dîm o arbenigwyr blaenllaw wedi cydnabod y cynnydd hwn. Daeth yr Asesiad Perfformiad Panel diweddar i'r casgliad bod Caerdydd yn gyngor sy'n cael ei redeg yn dda, sy'n arfer ei swyddogaethau'n effeithiol, gydag arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol effeithiol sy'n cyd-fynd, trefniadau llywodraethiant cryf a rheolaeth perfformiad cadarn. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad ein gweithlu, ein partneriaid a'n haelodau etholedig, a'r ffocws rydym yn ei gadw ar gyflawni blaenoriaethau'r ddinas.

Er bod y cynnydd hwn yn sylweddol, rydym yn parhau i fod yn gwbl glir am yr heriau sydd o'n blaenau. Mae'r galw am wasanaethau yn parhau i dyfu a mynd yn fwy cymhleth. Mae ysgolion yn wynebu pwysau sylweddol, gan gynnwys y galw cynyddol am gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol tra bod tueddiadau demograffig yn rhoi straen ar gyllidebau. Mae Gwasanaethau Plant ac Oedolion yn ymateb i lefelau uwch o angen, tra bod pwysau tai parhaus yn parhau i yrru'r galw a'r gost ar draws y system. Mae'r cyd-destun ariannol yn parhau i fod yn hynod heriol.

Mae'r Cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn parhau i gwrdd â'r heriau hynny.

Byddwn yn cadw ffocws di-baid ar ymyrraeth gynnar ac atal, gan gryfhau'r cymorth o amgylch plant a theuluoedd, a galluogi mwy o bobl hŷn i fyw'n annibynnol ac yn iach yn eu cymunedau. Byddwn yn parhau i yrru twf economaidd cynhwysol, gan sicrhau bod cyfleoedd yn cyrraedd pob rhan o'n dinas a bod ffyniant yn cael ei rannu'n eang. Byddwn yn buddsoddi mewn cymunedau cryf, diogel a chroesawgar, wedi eu hategu gan gymdogaethau a mannau cyhoeddus sydd wedi'u cysylltu'n dda. A byddwn yn cyflymu'r trawsnewidiad i brifddinas wyrddach a mwy gwydn, gan ymgorffori cynaliadwyedd wrth wraidd sut mae Caerdydd yn datblygu ac yn gweithredu.

Ar yr un pryd, byddwn yn parhau i foderneiddio'r Cyngor - defnyddio technoleg newydd, gwneud penderfyniadau darbodus i sicrhau bod yr amgylchedd cywir gennym i ddarparu gwasanaethau effeithiol, tra'n parhau i fuddsoddi yn ein gweithlu.

Fel bob amser, mae'r Cynllun hwn yn ymwneud â chydbwyso uchelgais â'r hyn y gellir ei gyflawni. Rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol am y deilliannau yr ydym am eu cyflawni, yn glir am yr adnoddau sydd ar gael i ni ac yn canolbwyntio ar gyflawni.

Rwy'n falch o'r cynnydd rydym yn parhau i'w wneud gyda'n gilydd. Mae'r Cynllun hwn yn sicrhau bod ein huchelgais yn parhau i gael ei wireddu mewn camau gweithredu credadwy, atebol, gan adeiladu prifddinas sy'n gryfach, tecach a gwyrddach ar gyfer y genhedlaeth hon a'r nesaf.

Y Cyng. Huw Thomas

Arweinydd Cyngor Caerdydd

Lawrlwythwch y Cynllun Corfforaethol llawn (PDF, 2 MB).

Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol y Cynllun Corfforaethol Cyngor Caerdydd (PDF, 1 MB).

Mae'r cynllun corfforaethol yn rhestru ein hamcanion lles:

Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu

Mae Caerdydd eisoes yn lle gwych i dyfu i fyny i lawer o blant a phobl ifanc, gyda gwelliant parhaus mewn safonau addysgol ac ymrwymiad cryf i hawliau plant ac i gynhwysiant. Fodd bynnag, mae pwysau hirsefydlog ar draws y maes addysg wedi eu dwysáu gan effaith barhaol y pandemig, costau byw cynyddol a'r twf yn y galw am gymorth. Mae ysgolion yn parhau i wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys anghenion iechyd a lles emosiynol cynyddol, llai o bresenoldeb gan rai dysgwyr, a phwysau cynyddol ar gyllidebau ysgolion. Mae'r galw am gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) hefyd yn cynyddu, gydag anghenion yn dod yn fwy cymhleth a'r galw yn parhau i dyfu'n gynt na chapasiti, gan roi pwysau pellach ar ddarpariaeth arbenigol, trafnidiaeth cartref i'r ysgol a gwasanaethau cymorth ehangach. Mewn ymateb, bydd y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn addysg o ansawdd uchel a gwella ysgolion, gan wella capasiti ADY a chynnal ffocws ar les, cynhwysiant ac ymyrraeth gynnar fel bod pob plentyn yn cael ei gefnogi i gyflawni eu potensial.

I blant sy'n agored i niwed a'u teuluoedd, mae cymorth amserol ac effeithiol yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn ddiogel, wedi eu cefnogi ac yn gallu cyflawni deilliannau cadarnhaol. Mae Gwasanaethau Plant yn parhau i ymateb i lefelau uchel a chynyddol gymhleth o alw, law yn llaw â phwysau cynyddol ynghylch digonolrwydd lleoliadau a chapasiti'r gweithlu. Bydd y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar gymorth ac atal cynnar, cryfhau trefniadau diogelu a gweithio gyda phartneriaid i ddarparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn. Bydd hyn yn cynnwys parhau i newid cydbwysedd gofal, gwella digonolrwydd lleoliadau a chefnogi mwy o blant i aros yn ddiogel yn eu teuluoedd a'u cymunedau lle bynnag y bo modd. Bydd cyflawni'r amcan hwn yn cael ei gefnogi drwy raglen newid a thrawsnewid ehangach y Cyngor, gan gynnwys gwaith i gryfhau gwasanaethau ataliol ar y cyd i blant a phobl ifanc a sicrhau bod cefnogaeth yn parhau i fod yn gynaliadwy wrth i'r galw a chymhlethdod barhau i dyfu.

Ein blaenoriaethau ar gyfer creu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach yn 2026 i 2027:

  • Bod yn Ddinas sy'n Dda i Blant: Hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc
  • Hawl i Ddysgu: Darparu addysgu a chyfleoedd dysgu o safon i bob plentyn a pherson ifanc
  • Llesiant, Tegwch a Chynhwysiant: Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn barod ac yn gallu dysgu, a bod ganddynt iechyd a lles cadarnhaol
  • Cyflawni Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
  • Symud y cydbwysedd gofal:
    • Lle
    • Pobl
    • Ymarfer
  • Diogelu lles plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n agored i niwed

 

Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn

Wrth i boblogaeth y ddinas barhau i heneiddio, mae pwysigrwydd cefnogi pobl hŷn i fyw bywydau iach, annibynnol a llawn yn dod hyd yn oed yn bwysicach. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn, lle gall preswylwyr hŷn barhau i gadw'n heini, i deimlo'n gysylltiedig a chael eu cefnogi yn eu cymunedau. Bydd y Cyngor yn parhau i ganolbwyntio ar alluogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol gartref cyhyd â phosibl, gyda chefnogaeth gwasanaethau ataliol cymunedol sy'n helpu pobl i gynnal eu lles ac osgoi cymorth mwy dwys lle bo hynny'n bosibl. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i gefnogi heneiddio'n dda, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau mwy dwys a hyrwyddo annibyniaeth ac ansawdd bywyd wrth i bobl heneiddio.

Ar yr un pryd, mae newid demograffig a lefelau cynyddol o angen yn cynyddu'r galw am ofal cymdeithasol i oedolion ac yn rhoi pwysau cynyddol ar wasanaethau a'r system gofal ehangach. Bydd llawer o bobl yn profi anghenion lluosog neu gymhleth wrth iddynt dyfu'n hŷn, ac mae angen cymorth cydgysylltiedig. Bydd darparu gofal a chymorth cynaliadwy yn parhau i ddibynnu ar waith partneriaeth gref ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, tai a'r sector gwirfoddol, gan sicrhau bod pobl yn derbyn y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn, cefnogi rhyddhau diogel ac amserol o'r ysbyty, a helpu i atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi. Bydd cefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ag anghenion mwy cymhleth i fyw'n dda ac aros yn annibynnol. Bydd y blaenoriaethau trawsnewid hyn yn cael eu cyflawni trwy ddulliau integredig, ataliol a phartneriaeth sy'n cefnogi gofal cynaliadwy a chanlyniadau gwell i oedolion a'u teuluoedd.

Ein blaenoriaethau ar gyfer creu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach yn 2026 i 2027:

  • Cefnogi pobl hŷn i gadw'n heini ac yn gysylltiedig mewn dinas sy'n dda i bobl hŷn
  • Cefnogi pobl hŷn i fyw'n annibynnol gartref trwy wasanaethau ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau
  • Gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gofal a chymorth cynaliadwy o ansawdd uchel
  • Cefnogi gofalwyr di-dâl a gwerthfawrogi eu rôl
  • Sicrhau bod ein gwasanaethau'n diwallu anghenion y rhai mwyaf agored i niwed

 

Cefnogi pobl allan o dlodi

Er bod Caerdydd wedi profi twf economaidd cadarn dros y degawdau diwethaf, mae anghydraddoldeb parhaus i'w gael o hyd, gyda rhai o'r cymunedau â'r amddifadedd mwyaf yng Nghymru i'w gweld yn y ddinas. Mae costau byw yn parhau i roi pwysau sylweddol ar aelwydydd, gan ei gwneud hi'n anoddach i lawer o bobl gwrdd â chostau byw hanfodol a dyfnhau gwahaniaethau sy'n bod eisoes. Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf, gan helpu trigolion i wella eu gwytnwch ariannol a chael mynediad at y cyngor a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ar y cyfle cyntaf.

Bydd ffocws allweddol yn parhau i fod ar gefnogi pobl i weithio a gwella mynediad at hyfforddiant, sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth, yn enwedig i grwpiau sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol i gyflogaeth. Bydd atal digartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gyda ffocws ar ymyrraeth gynnar, cynyddu mynediad at lety addas a sicrhau bod cysgu ar y styrd yn brin, yn fyr ac nad yw'n cael ei ailadrodd. Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i hyrwyddo cyflog teg a chyflogaeth dda trwy ei uchelgeisiau Cyflog Byw, gan weithio gyda chyflogwyr a phartneriaid i gefnogi twf cynhwysol. Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni trwy weithio integredig, seiliedig ar le gyda phartneriaid, gan ganolbwyntio ar atal, lleihau anghydraddoldeb a gwella canlyniadau hirdymor i gymunedau ledled y ddinas.

Ein blaenoriaethau ar gyfer creu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach yn 2026 i 2027:

  • Cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw
  • Cefnogi pobl i mewn i waith
  • Parhau â'n huchelgais Dinas Cyflog Byw
  • Atal digartrefedd lle bynnag y bo modd a rhoi terfyn ar gysgu ar y stryd

 

Cymunedau diogel, hyderus a grymus

Mae cymunedau diogel, hyderus a grymus yn hanfodol i les Caerdydd ac i sicrhau bod preswylwyr yn gallu byw bywydau iach a boddhaol. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gadw Caerdydd yn un o'r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU, gan ganolbwyntio ar atal niwed, mynd i'r afael â thrais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac amddiffyn pobl sy'n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi yn eu cartrefi, eu cymdogaethau a'u mannau cyhoeddus.

Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i gryfhau lles a gwytnwch cymunedol, gan gydnabod bod diogelwch a chyfleoedd yn gysylltiedig yn agos â thai diogel, mynediad at gymorth ac ansawdd lleoedd lleol. Mae pwysau parhaus yn y system dai yn parhau i fod yn her fawr i'r ddinas ac yn parhau i yrru galw a phwysau costau ar draws gwasanaethau. Law yn llaw â gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cynhwysiant, bydd y Cyngor yn cadw ffocws cryf ar gymdogaethau a seilwaith cymunedol, gan gynnwys Hybiau a llyfrgelloedd, ac ar ddiogelu parciau a mannau gwyrdd Caerdydd fel eu bod yn parhau i fod yn hygyrch ac yn groesawgar. Unwaith eto, bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni trwy weithio integredig, seiliedig ar le sy'n dod â gwasanaethau a phartneriaid at ei gilydd yn lleol, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn unedig, yn ymatebol ac yn gynaliadwy.

Ein blaenoriaethau ar gyfer creu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach yn 2026 i 2027:

  • Arwain yr ymateb i'r Argyfwng Tai
  • Buddsoddi mewn cymunedau
  • Sicrhau y diogelir plant ac oedolion rhag y perygl o niwed a cham-drin
  • Creu cymunedau diogel a chynhwysol
  • Cefnogi chwaraeon cymunedol ac ar lawr gwlad ar draws y ddinas
  • Darparu parciau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel

 

Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru

Mae Caerdydd yn ganolog i dwf economaidd a ffyniant Cymru, gan ysgogi creu swyddi newydd, buddsoddiad ac arloesi. Fel prifddinas, mae llwyddiant Caerdydd yn rhagofyniad ar gyfer Cymru ffyniannus a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd gystadleuol. Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi twf cynhwysol a chynaliadwy, gan greu'r amodau i fusnesau fuddsoddi a thyfu ac i drigolion gael cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel, tra'n sicrhau bod manteision twf yn cael eu teimlo ledled y ddinas.

Bydd agenda datblygu ac adfywio Caerdydd yn parhau i gryfhau pa mor gystadleuol yw'r ddinas a gwella ei phroffil rhyngwladol, gyda chefnogaeth gweithgarwch sylweddol o ran seilwaith, trafnidiaeth a chreu lleoedd. Mae pwysau economaidd cenedlaethol ac ansicrwydd cyllido parhaus yn parhau i greu heriau ar gyfer buddsoddi a chyflawni, a bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid a phob lefel o lywodraeth i sicrhau cefnogaeth a chynnal momentwm ar gyfer prosiectau economaidd trawsnewidiol. Law yn llaw â gweithredu i wella cynhyrchiant a lleihau rhwystrau i gyflogaeth, bydd y Cyngor hefyd yn parhau i hyrwyddo cynnig diwylliannol Caerdydd a rhaglen ddigwyddiadau mawr fel sbardun allweddol i hunaniaeth, economi ac apêl y ddinas i ymwelwyr.

Bydd cyflawni'r amcan hwn yn cael ei gefnogi drwy ddatblygu gweledigaeth economaidd hirdymor newydd ar gyfer Caerdydd, gan weithio gyda phartneriaid a sefydliadau angor i gryfhau aliniad ar draws blaenoriaethau datblygu'r ddinas. Bydd hyn yn sicrhau bod gweithgarwch buddsoddi, adfywio a seilwaith yn cael eu cydlynu ac yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o'u cyfraniad at dwf cynhwysol, cynhyrchiant a chanlyniadau gwell i bob cymuned.

Ein blaenoriaethau ar gyfer creu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach yn 2026 i 2027:

  • Arwain y datblygiad economaidd yng Nghymru
  • Arwain y datblygiad economaidd yng Nghaerdydd
  • Cefnogi'r sector diwylliannol a'r rhaglen digwyddiadau mawr

 

Caerdydd Un Blaned

Mae Caerdydd yn parhau i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, gan gydnabod effeithiau cynyddol tywydd eithafol, perygl llifogydd a'r angen i warchod ac adfer yr amgylchedd naturiol. Mae'r heriau hyn yn gofyn am newid hirdymor yn y ffordd y mae'r ddinas yn tyfu a sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi trafnidiaeth, ynni, gwastraff a'r amgylchedd adeiledig. Bydd y Cyngor yn parhau i arwain trawsnewidiad y ddinas i ddyfodol mwy gwyrdd a chynaliadwy, gan ymgorffori lleihau carbon a chynaliadwyedd amgylcheddol wrth wneud penderfyniadau ac mewn gweithrediadau bob dydd. Mae hyn yn cynnwys cefnogi dewisiadau teithio gwyrddach, gwella ansawdd aer, a sicrhau bod datblygu a buddsoddiad ledled y ddinas yn adlewyrchu cynaliadwyedd a lles hirdymor.

Bydd cyflawni sero net ac adeiladu gwytnwch hinsawdd yn gofyn am weithio mewn partneriaeth barhaus a buddsoddiad sylweddol ar lefel leol a chenedlaethol. Bydd y Cyngor yn parhau i fwrw ymlaen â rhaglenni allweddol sy'n lleihau allyriadau ac yn cryfhau gwytnwch, gan gynnwys gweithredu ar drafnidiaeth ac ynni, rheoli perygl llifogydd, gwella perfformiad ailgylchu a chynnal amgylchedd dinas lân wedi ei rheoli'n dda. Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cyflawni trwy weithio trawsnewidiol, ar draws gwasanaethau sy'n alinio amcanion amgylcheddol ac economaidd ac yn cefnogi cynaliadwyedd a gwytnwch hirdymor.

Ein blaenoriaethau ar gyfer creu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach yn 2026 i 2027:

  • Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd
  • Trawsnewid systemau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol Caerdydd
  • Rhoi cynaliadwyedd a lles wrth wraidd twf y ddinas
  • Gwella amddiffynfeydd llifogydd Caerdydd
  • Adeiladu gwydnwch yn ein rhwydwaith priffyrdd
  • Gwneud Caerdydd yn ddinas ailgylchu o'r radd flaenaf
  • Gweithio fel un tîm i gadw ein strydoedd yn lân

 

Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus

Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i wynebu galw cynyddol a chynyddol gymhleth am wasanaethau, law yn llaw â phwysau ariannol sylweddol a rhagolygon tymor canolig heriol. Mae'r pwysau hyn yn gofyn am ganolbwyntio parhaus ar sicrhau bod y Cyngor yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol yn effeithiol wrth addasu i anghenion a disgwyliadau sy'n newid. Mewn ymateb, mae'r Cyngor wedi datblygu rhaglen newid a thrawsnewid newydd sy'n canolbwyntio ar sicrhau bod gwasanaethau yn parhau i fod yn wydn, yn gynaliadwy ac yn gallu diwallu anghenion preswylwyr. Mae'r rhaglen hon yn canolbwyntio ar feysydd o alw uchel a chynyddol, pwysau ariannol sylweddol neu lle mae angen diwygio gwasanaethau i sicrhau cyflenwad cynaliadwy.

Maes canolbwyntio allweddol fydd sicrhau bod gweithleoedd, technoleg a diwylliant y Cyngor yn cefnogi staff i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys moderneiddio swyddfa graidd ac ystâd ehangach y Cyngor i adlewyrchu gofynion sefydliadol sy'n newid, cyflymu trawsnewid digidol i gefnogi darpariaeth, ac ehangu mynediad at wasanaethau trwy ddulliau mwy effeithlon ac sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Bydd y Cyngor hefyd yn parhau i flaenoriaethu gwytnwch y gweithlu, gan gydnabod pwysigrwydd recriwtio, cadw, llesiant a sgiliau wrth gynnal gwasanaethau cryf ac ymateb i heriau yn y dyfodol. Law yn llaw â hyn, bydd cryfhau llywodraethiant a chynllunio ariannol yn parhau i fod yn hanfodol i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol a bod rhaglenni a phrosiectau mawr yn cael eu cyflawni'n llwyddiannus. Trwy'r newidiadau hyn, bydd y Cyngor yn cryfhau'r ffordd y mae'n gweithio ar draws y sefydliad a chyda phartneriaid, gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn unedig, yn ymatebol ac yn gallu darparu gwerth am arian tra'n cadw ffocws cryf ar ganlyniadau i breswylwyr.

Ein blaenoriaethau ar gyfer creu Caerdydd gryfach, decach a gwyrddach yn 2026 i 2027:

  • Gweithio gyda phartneriaid y ddinas i gyflawni Caerdydd Cryfach, Tecach, Gwyrddach
  • Darparu adeiladau mwy effeithiol a gwyrddach i'r Cyngor
  • Gwella cynnig digidol y Cyngor a gwella'r defnydd o ddata
  • Cefnogi gweithlu medrus a chynhyrchiol iawn gyda lles staff wrth ei wraidd
  • Defnyddio pŵer pwrs y wlad yn effeithiol ac yn gyfrifol i gefnogi uchelgeisiau'r Cyngor
  • Sicrhau bod y Cyngor yn cynrychioli ac yn ymateb i amrywiaeth cymunedau Caerdydd