Cryfach Tecach Gwyrddach yw'r themâu sydd wedi diffinio gwaith y Cyngor dros y degawd diwethaf, a byddant wrth wraidd popeth a wnawn dros y 5 mlynedd nesaf.
- Dinas gryfach, gydag economi sy'n creu ac yn cynnal swyddi sy'n talu'n dda, gyda system addysg sy'n helpu ein pobl ifanc i gyrraedd eu potensial, gyda thai da, fforddiadwy mewn cymunedau diogel, hyderus a grymus, i gyd yn cael eu cefnogi gan wasanaethau cyhoeddus effeithlon sydd ag adnoddau da.
- Dinas decach, lle gall pawb fwynhau'r cyfleoedd o fyw yng Nghaerdydd, beth bynnag fo'u cefndir, lle mae'r rhai sy'n dioddef effeithiau tlodi yn cael eu diogelu a'u cefnogi, lle mae diwrnod teg o waith yn golygu diwrnod teg o gyflog, a lle mae pob dinesydd yn cael ei werthfawrogi ac yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi.
- Dinas werddach, a fydd drwy ein rhaglen Caerdydd Un Blaned yn arwain ar ymateb i'r argyfwng hinsawdd, dinas sy'n dathlu ac yn meithrin bioamrywiaeth, gyda mannau agored o ansawdd uchel o fewn cyrraedd hawdd i orffwys a chwarae, dinas gysylltiedig â dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy cyfleus, hygyrch a diogel.
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn nodi'r camau ymarferol y byddwn yn eu cymryd dros y 5 mlynedd nesaf i wireddu'r uchelgais hon.
Lawrlwythwch Strategaeth Cryfach Tecach Gwyrddach 2022. (PDF, 5 MB)
