Mae Asesiad Lles Lleol Caerdydd 2022, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn dadansoddi lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Caerdydd ac yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau allweddol sy'n wynebu Caerdydd wrth iddi dyfu.
Cynhelir yr asesiad gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Caerdydd bob 5 mlynedd, fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Drwy nodi lle mae'r ddinas yn perfformio'n dda, lle mae angen iddi wella a'i heriau allweddol, bydd yr asesiad hwn yn helpu'r BGC i adolygu ei amcanion ar gyfer gwella lles Caerdydd a datblygu Cynllun Lles Lleol BGC diwygiedig, i'w gyhoeddi ym mis Mai 2023.
Mae Asesiad Lles Lleol Caerdydd yn cynnwys:
- Adroddiad Crynodeb Gweithredol Caerdydd Heddiw(3MB) yn rhoi cyd-destun ar gyfer datblygu'r asesiad a thynnu sylw at rai o'r prif ganfyddiadau;
- Adroddiad Caerdydd Heddiw - Asesiad o Les yng Nghaerdydd (6MB) sy'n rhoi trosolwg o les Caerdydd.
- Adroddiad Caerdydd Yfory (4MB), sy'n nodi tueddiadau hirdymor sy'n wynebu Caerdydd ac effaith y rhain ar wasanaethau cyhoeddus y ddinas.
Yr Adroddiad Cefndirol (0.3MB) sy'n rhoi trosolwg o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd i greu'r asesiad, ochr yn ochr â'r sylfaen dystiolaeth ac adolygiadau ac asesiadau statudol a ystyrir.
Gweler rhagor o wybodaeth am y sylfaen dystiolaeth a ddefnyddir i ddatblygu'r asesiad hwn, gan gynnwys setiau data dangosydd allweddol ar gyfer pob ward etholiadol yng Nghaerdydd.
