Toggle menu

Strategaeth gwaith ieuenctid Caerdydd

Mae'r strategaeth newydd, o'r enw 'Rhywle sy'n denu a rhywle i dyfu', yn nodi gweledigaeth glir ar gyfer gwella bywydau pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed drwy sicrhau bod ganddynt fynediad at gyfleoedd gwaith ieuenctid o ansawdd uchel, cynhwysol a hygyrch ledled Caerdydd.

Prif ffocws y strategaeth

Yn ei hanfod, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar gynnig dull gwaith ieuenctid cyson ledled y ddinas gan gyfuno cymorth mewn ysgolion â darpariaeth mewn lleoliadau cymunedol fel canolfannau ieuenctid a gwasanaethau allgymorth.

Blaenoriaeth ganolog yw sicrhau bod gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn weladwy, yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion pobl ifanc, yn enwedig y tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys gyda'r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau.

Mae'r strategaeth yn nodi cyfres o flaenoriaethau allweddol, gan gynnwys:

  • Cyfranogiad a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn dylanwadu ar wasanaethau.
  • Cynhwysiant, yn enwedig ar gyfer grwpiau sy'n agored i niwed ac wedi'u gwthio i'r cyrion.
  • Cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg.
  • Darparu cymorth wedi'i dargedu lle y mae ei angen fwyaf.
  • Diogelu a lles.
  • Datblygu'r gweithlu.
  • Gweithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau a sefydliadau.

Mae'r blaenoriaethau hyn wedi'u llunio'n uniongyrchol gan ymgysylltu â phobl ifanc, ochr yn ochr â mewnbwn gan bartneriaid a rhanddeiliaid, gan sicrhau bod y strategaeth yn adlewyrchu profiadau, anghenion a dyheadau go iawn.

Mae'r dull hefyd yn cyd-fynd â'r disgwyliadau cenedlaethol, gyda Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddatblygu cynllun strategol gwaith ieuenctid pum mlynedd sy'n canolbwyntio ar gydweithio a chyflawni o ansawdd uchel.

Dysgwch fwy am Strategaeth gwaith ieuenctid Caerdydd.