Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Datganiadau cyllideb ysgolion

Edrychwch ar y datganiadau Adran 52.

Datganiad Cyllideb

Mae'r Datganiad Cyllideb yn cael ei baratoi yn unol â:

  • Adran 52 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a
  • Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) a'r canllawiau cysylltiedig.

Yn anffodus, nid yw rhai o'r datganiadau ar gael yn Gymraeg. Maen nhw'n cael eu cyfieithu ar hyn o bryd a byddant ar gael yn fuan.

Rhan 1: Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Rhan 1 yn dangos y gyfran o'r gyllideb ar gyfer pob un o'n hysgolion meithrin, cynradd, uwchradd ac arbennig, ac eitemau memorandwm nad ydynt yn cael eu dyrannu i ysgolion unigol.

 

Rhan 2 a 3: Ffactorau cyllido ysgolion unigol a chyfran o'r gyllideb

Mae Rhan 2 yn esbonio sut mae pob cyllideb yn cael ei chyfrifo. Mae'n dangos ffactorau ariannu, gan gynnwys nifer y disgyblion a'u hoedran (Uned Disgyblion â Phwysoledd Oedran) a darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae Rhan 3 yn dangos gwybodaeth ar gyfer pob ysgol (ariannol ac anariannol) a ddefnyddir i gyfrifo eu cyfran o'r gyllideb.

 

Datganiadau Alldro

Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (31 Mawrth) rydym yn paratoi datganiad yn crynhoi:

  • cyfran gyllidebol gynlluniedig,
  • addasiadau yn ystod y flwyddyn,
  • gwariant a chyllid cyfalaf,
  • balansau a gyflwynwyd o'r flwyddyn ariannol flaenorol, a
  • balansau a ddygwyd ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf.