Rydym am weithio tuag at ddod yn Gaerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth ac sy'n fwy cynhwysol. Mae 1 o bob 7 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn niwrowahanol. Mae hyn yn golygu eu bod yn profi'r byd yn wahanol ac mae ganddynt wahaniaethau o ran:
- dealltwriaeth gymdeithasol,
- prosesu synhwyraidd,
- cyfathrebu, a
- phrosesu gwybodaeth.
Mae niwrowahaniaeth yn derm ymbarél ac mae'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Awtistiaeth,
- Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd, a
- Syndrom Tourette.
Mae Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth yn fenter ledled y ddinas sydd â'r nod o greu dinas fwy cynhwysol. Rydym bellach wedi lansio Strategaeth gyntaf erioed Caerdydd sy'n Deall Niwrowahaniaeth. Mae hwn yn gynllun pum mlynedd sydd wedi'i gynllunio i wneud y ddinas yn lle y gall pobl niwrowahanol o bob oedran, a'r rhai sy'n eu cefnogi, gael cymorth i fyw'n dda a ffynnu.
Bydd y strategaeth yn rhedeg rhwng 2025 a 2030. Fe'i datblygwyd trwy ymgysylltu'n helaeth â:
- phobl niwrowahanol a'u teuluoedd,
- gweithwyr proffesiynol, a
- grwpiau cymunedol.
Cymerodd dros 800 o bobl ran mewn ymgynghoriad i helpu i lunio ein strategaeth.
Darllenwch:
