Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Dinasoedd di-si

Mae Caerdydd yn cymryd rhan mewn Dinasoedd Di-si sy'n Rhwydwaith Trosglwyddo URBACT o saith dinas:

  • Amadora (Prif Bartner),
  • Caerdydd,
  • Hamburg-Altona,
  • Warsaw,
  • Alba Iulia,
  • Ioannina a
  • Messina.

Mae'r rhwydwaith yn canolbwyntio ar drosglwyddo arfer gorau a sefydlwyd gan fwrdeistref Amadora, sy'n mynd i'r afael ag angen cyffredin ymysg y partneriaid; sut i wrthsefyll agweddau cynyddol negyddol tuag at grwpiau lleiafrifol. Mae'r arfer yn canolbwyntio'n bennaf ar grwpiau mudol a lleiafrifoedd ethnig, megis Roma a ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd yn ddiweddar, ond gellir defnyddio'r arferion gwrth-ragfarn gyda grwpiau lleiafrifol eraill megis y gymuned LGBT. 

Amcanion Lleol Caerdydd

  • Datblygu naratif dinas gynhwysol a gweladwy sy'n cydnabod ac yn dathlu amrywiaeth Caerdydd a chyfraniadau cymunedau lleiafrifol Caerdydd yn gyson.
  • Creu sylfaen dystiolaeth leol ar agweddau cymdeithasol a phrofiadau trigolion o leiafrifoedd yn y ddinas, yn enwedig o ran preswylwyr mudol a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
  • Dangos ymrwymiad gwleidyddol gweladwy i barhau i fod yn ddinas agored a byd-eang.
  • Adeiladu rhwydwaith o gynghreiriaid a chefnogwyr sy'n ymrwymo i athroniaeth y ddinas o gynhwysiant a chydfodolaeth heddychlon, sy'n gwrthod eithafiaeth a senoffobia.
  • Hwyluso arweinyddiaeth ieuenctid ar gyfer cynhwysiant a meddwl yn feirniadol ar faterion cymhleth sy'n ymwneud â hunaniaeth.

Partneriaid Dinasoedd Di-si Lleol Caerdydd

  • Cyngor Caerdydd,
  • Pafiliwn Butetown,
  • Sefydliad Dinas Caerdydd,
  • Clwb Pêl-droed Tongwynlais,
  • Prifysgol Caerdydd,
  • Canolfan Ffoaduriaid Oasis,
  • Coleg Caerdydd a'r Fro,
  • Rotari Caerdydd,
  • Theatr y Sherman,
  • Heddlu De Cymru,
  • Citizens Cymru,
  • Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST),
  • Partneriaeth Mudo Strategol Cymru (WSMP),
  • Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CCHA),
  • Rheolwr Polisi Ffoaduriaid a Mudo - Llywodraeth Cymru, a'r Cyngor Ieuenctid.