Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Dileu gwahaniaethu yn erbyn menywod

CEDAW, neu CDWEM, yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Diddymu pob ffurf ar Wahaniaethu yn Erbyn Menywod. 

Mae Caerdydd yn falch o gynnal egwyddorion CEDAW. Cyfeirir ato hefyd fel y ddeddf hawliau menywod rhyngwladol.

Rydym yn gweithio'n weithredol i ymgorffori gwerthoedd CEDAW ar draws pob lefel o bolisi ac ymarfer, fel dinas sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb, cynhwysiant a chyfiawnder cymdeithasol. 

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • cymryd camau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig rhwng y rhywiau, 

  • darparu amgylcheddau diogel a chefnogol, a

  • hyrwyddo hawliau menywod. 

Gan weithio'n agos gyda phartneriaid cymunedol a chyrff sector cyhoeddus, mae Caerdydd yn parhau i hyrwyddo hawliau menywod a merched. Rydym yn ymdrechu i greu dinas gryfach a thecach lle gall pawb ffynnu, yn rhydd rhag gwahaniaethu, trais a chamdriniaeth. ​

Ar 30 Mawrth 2023 cymeradwywyd cynnig i ddatgan Caerdydd yn 'Ddinas dros CDWEM'. 

Cytunwyd hefyd:

  • Rhoi cyngor a gwybodaeth trwy'r Hybiau a Llyfrgelloedd cymunedol ledled Caerdydd i helpu menywod a merched i gael mynediad at yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, gan gynnwys llyfryn hawliau. 

  • Creu rhaglen o weithgareddau, wedi'i llywio gan fenywod a merched, i rymuso ac ennyn diddordeb menywod a merched, gan gynnwys 'Gŵyl hawliau', 'Hyrwyddwyr Cydraddoldeb' a phrosiectau effaith gymdeithasol yng Nghaerdydd. 

  • Sicrhau bod mwy o Fannau Diogel ledled Caerdydd, gan gynnwys menywod a merched wrth eu creu. 

  • Cyflawni strategaeth a chanlyniadau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) cryf i wella diogelwch pob menyw a merch yng Nghaerdydd.  

  • Sicrhau bod strategaeth VAWDASV Caerdydd yn adlewyrchu CDWEM ac yn cynnig uchelgais glir a chyflawniadau tuag at roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod a merched. 

  • Adolygu ein rhaglen o hyfforddiant cydraddoldeb/cynhwysiant i sicrhau bod egwyddorion CDWEM yn cael eu hamlygu, eu prif ffrydio a'u darparu trwy hyfforddiant o'r fath i'n staff a'n swyddogion, gan gynnwys staff rheng flaen.

  • Rhoi mesurau ar waith sy'n sicrhau bod gweithlu'r Cyngor yn fwy cynrychioliadol a chynhwysol o'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys cryfhau a dathlu gwaith ein rhwydwaith cydraddoldeb.  

  • Sicrhau bod egwyddorion CDWEM wedi'u gwreiddio ym mhob penderfyniad, gydag asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu cyflwyno i bwyllgorau craffu, gan gyflawni dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus ar rywedd.  

  • Byw drwy esiampl: parhau i osod atebolrwydd am gam-drin ar y rhai sy'n achosi niwed, drwy herio a newid diwylliant rhywiaeth a chasineb at fenywod, trwy weithgareddau ac ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol a hyrwyddo diddymu gwahaniaethu yn erbyn menywod i bobl o bob rhyw. 

  • Ymgorffori cynllunio dinesig sy'n ystyried rhywedd mewn polisi cynllunio a dylunio trefol fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd sydd ar ddod. 

Cytunodd Cabinet y Cyngor i gyflwyno adroddiad gyda chynigion wedi'u hamserlennu i gyflawni'r ymrwymiadau a restrir uchod. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024-28 y Cyngor, sydd ar ddod.​​​