Mae Deddf Gydraddoldeb 2010 yn gosod Dyletswydd Gyffredinol ar Gyngor Dinas Caerdydd, fel corff cyhoeddus, fod rhaid iddo ystyried yn ofalus y tri ffactor canlynol wrth wneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau ariannol):
- Cael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon,
- Gwella o ran cynnig cyfle cyfartal, a
- Meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sydd â nodwedd a ddiogelir (megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, cred a diffyg cred, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a'r Iaith Gymraeg) a phobl sydd heb un o'r nodweddion hyn.
Mae gofynion y Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i ddangos bod penderfyniadau ariannol yn cael eu gwneud mewn modd teg, eglur ac atebol ac yn ystyried anghenion a hawliau aelodau amrywiol o'r gymuned. Mae dyletswyddau cydraddoldeb penodol y Ddeddf yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol wneud y canlynol:
- Gwneud trefniadau priodol ar gyfer asesu effaith debygol ei bolisïau a'i arferion ar ei allu i gydymffurfio â'r Ddyletswydd Gyffredinol,
- Monitro'r effeithiau hyn, a
- Chyhoeddi adroddiadau mewn perthynas ag unrhyw asesiad.
Cyhoeddir Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb sy'n ymwneud â phenderfyniadau'r Cabinet gyda phapurau'r Cabinet
Gallwch weld penderfyniad, gan gynnwys yr holl bapurau, drwy ddefnyddio'r swyddogaeth chwilio ar wefan Modern Gov.
Gallwch weld holl gyfarfodydd y Cabinet a'u papurau hefyd ar wefan Modern Gov.
Monitro cydraddoldeb
Mae dyletswydd benodol ar y Cyngor i adrodd bob blwyddyn ar sut mae'n cydymffurfio â'r Ddyletswydd Gyffredinol, gan gynnwys y cynnydd y mae wedi'i wneud i gyflawni ei Amcanion Cydraddoldeb a gwybodaeth am ei weithwyr.
- Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb 2023 i 2024 (PDF, 506 KB)
- Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb 2022 i 2023 (PDF, 317 KB)
- Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2026 (PDF, 902 KB)
- Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2025 (PDF, 543 KB)
- Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2024 (PDF, 937 KB)
- Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2023 (PDF, 469 KB)
