Mae Caerdydd yn ymrwymedig at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae hyn yn golygu y gall pawb fwynhau'r cyfleoedd niferus sy'n deillio o fyw yng Nghaerdydd, beth bynnag y bo'u cefndir; lle cefnogir y rhai sy'n ddifreintiedig a lle mae'r trigolion i gyd yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fodloni gofynion Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC) a bydd yn gweithio i:
- Ddileu gwahaniaethau, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiadau eraill a waherddir dan y Ddeddf Gydraddoldeb.
- Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rheiny nad ydynt yn rhannu'r fath nodweddion.
- Meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sydd â nodwedd warchodedig a'r rheiny nad oes ganddynt y fath nodweddion.
Mae ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024 i 2028 yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni ein 5 amcan cydraddoldeb strategol:
- Caerdydd Decach
Byddwn yn lleihau anghydraddoldeb ac yn cefnogi pawb yng Nghaerdydd i gyflawni eu potensial. - Caerdydd Hygyrch
Byddwn yn gweithio i sicrhau y gall pawb gymryd rhan ym mhopeth sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. - Caerdydd Gynhwysol
Byddwn yn gwneud Caerdydd yn ddinas lle mae gwahaniaethau'n cael eu deall a'u dathlu, a lle mae pob cymuned yn teimlo ei bod yn perthyn. - Cyngor sy'n adlewyrchu ei gymunedau
Byddwn yn gwneud Cyngor Caerdydd yn sefydliad mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu gwasanaethu, a lle mae'r gweithwyr yn hyderus i fod yn nhw eu hunain ac yn cael eu grymuso i symud ymlaen. - Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd y sefydliad
Byddwn yn sicrhau bod prosesau craidd Cyngor Caerdydd yn cefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Gallwch ddarllen y:
- Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024 i 2028 (PDF, 6 MB)
- Fersiwn hawdd ei darllen o Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 2024 i 2028 (PDF, 2 MB)
Os oes angen y strategaeth arnoch mewn fformat gwahanol, fel print bras, cysylltwch â ni.
Asesiad o Anghenion Cydraddoldeb
Cynhaliwyd Asesiad cynhwysfawr o Anghenion Cydraddoldeb i lywio'r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Gan ddefnyddio gwybodaeth a gedwir gan y Cyngor a ffynonellau eraill, adolygodd yr asesiad hwn ystod o setiau data a oedd ar gael er mwyn nodi sut gwnaeth anghydraddoldeb amlygu ei hun yng Nghaerdydd, gyda ffocws ar nodi'r materion penodol sy'n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol, yn ogystal â nodweddion penodol eraill, fel bod yn siaradwr Cymraeg neu'n ofalwr.
Daeth yr asesiad hwn ag ystod o ddata, adroddiadau ac ymchwil presennol at ei gilydd. Ymhlith dulliau eraill, casglwyd gwybodaeth drwy asesu'r setiau data a oedd ar gael ac adolygu cynlluniau gweithredu lleol a chenedlaethol.
Asesiad o Anghenion Cydraddoldeb Crynodeb Gweithredol (PDF, 2 MB)
Adroddiad Monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Gweithwyr
Mae'n ofynnol i'r Cyngor adrodd yn flynyddol ar ei gydymffurfiaeth â'r Ddyletswydd Gyffredinol, gan fanylu ar y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ei Amcanion Cydraddoldeb yn ogystal â gwybodaeth am ei gyflogeion. Mae hyn yn cynnwys paratoi a chyhoeddi adroddiad cydraddoldeb blynyddol sy'n tynnu sylw at y datblygiadau a wnaed tuag at yr amcanion hyn.
Adroddiad yr Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol
- Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb 2024 i 2025 (PDF, 6 MB)
- Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb 2023 i 2024 (PDF, 506 KB)
- Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb 2022 i 2023 (PDF, 405 KB)
- Adolygiad Blynyddol Cydraddoldeb 2020 i 2022 gan gynnwys Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2022 (PDF, 747 KB)
Adroddiad Blynyddol ar Amrywiaeth Gweithwyr
Mae'r Adroddiad Blynyddol ar Amrywiaeth Gweithwyr yn amlygu ein hymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle. Mae'n gwasanaethu fel offeryn i asesu cynnydd, sicrhau cydymffurfiaeth, a llywio strategaethau yn y dyfodol i greu amgylchedd cynhwysol i bob gweithiwr.
- Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2025 (PDF, 543 KB)
- Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2024 (PDF, 937 KB)
- Adroddiad Amrywiaeth Gweithwyr 2023 (PDF, 469 KB)
Caerdydd Heddiw - Dangosfwrdd Dinas Gynhwysfawr
Mae'r rhan fwyaf o'n gwybodaeth ystadegol i'w gweld ar Ddangosfwrdd y Ddinas. Mae hyn yn dwyn ynghyd setiau data allweddol ar les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Caerdydd. Mae'r dangosfwrdd yn cynnwys data ar:
- Economi Caerdydd
- Caerdydd Un Blaned (ymateb Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd)
- Cymunedau diogel, hyderus a grymus
- Plant a phobl ifanc
- Tlodi
- Iechyd a lles
- Demograffeg Caerdydd
