Yn dilyn Adroddiad Tasglu Cydraddoldeb Hiliol Caerdydd 2022, sefydlodd 10 o sefydliadau sector cyhoeddus mawr Rwydwaith Cydraddoldeb Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd. Y sefydliadau yw:
- Cyngor Caerdydd
- Cyngor Trydydd Sector Caerdydd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
- Gwasanaeth Carchardai a Phrawf ei Fawrhydi
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a'r Fro
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Heddlu De Cymru
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
- Llywodraeth Cymru
Maent i gyd yn cael eu cynrychioli ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd (BGC).
Nodau'r rhwydwaith
Nod y rhwydwaith yw:
- Hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant o fewn y gweithlu gwasanaeth cyhoeddus.
- Eiriol dros bolisïau sy'n gwella amrywiaeth yn y gweithle a dilyniant yn y farchnad lafur leol.
Ymrwymiadau Cydraddoldeb Strategol 2025 i 2026
Mabwysiadu Arfer Gorau fel Arfer Gyffredin: Ysgogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws gwasanaethau cyhoeddus Caerdydd. Dyma sut:
Arweinyddiaeth a diwylliant
Byddwn yn amrywiaethu'r arweinyddiaeth reolaethol ac yn cefnog datblygiad gyrfa grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy:
- Datblygu Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth ar draws ein sefydliadau ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
- Sefydlu cynllun mentora deuffordd i feithrin dysgu ar y cyd, rhannu safbwyntiau amrywiol a hyrwyddo cynhwysiant.
- Ymrwymo pob arweinydd rheoli o bob rhan o Bartneriaid Gwasanaethau Cyhoeddus i gefnogi'r rhaglenni arweinyddiaeth trwy fynychu i rannu eu taith arwain.
Hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Byddwn yn hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth drwy'r canlynol:
- Mabwysiadu hyfforddiant cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant gorfodol.
- Sefydlu trefniadau goruchwylio i fonitro cydymffurfaeth â hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol.
- Adolygu'r Cynnig Hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant o bryd i'w gilydd i gynnal ei berthnasedd a'i briodoldeb.
Amrywiaeth y gweithlu
Byddwn yn gweithio i sicrhau bod ein gweithlu'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, drwy'r dulliau canlynol:
- Cyhoeddi adroddiad Amrywiaeth Blynyddol sy'n nodi proffl gweithlu'r sefydliad.
- Cynnwys cwestiwn ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn cyfweliadau fel rhan o'r broses recriwtio, sy'n berthnasol ac yn gymesur â'r rôl, i brof cymhwysedd yn ffurfol yn y maes hwn.
- Ei gwneud yn ofynnol i holl aelodau'r panel cyfweld gwblhau hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod, neu hyfforddiant priodol tebyg, cyn cymryd rhan yn y broses recriwtio a chyfweliadau.
Darparu gwasanaeth cynhwysol a gwybodus
Byddwn yn gwrando ac yn deall lleisiau ein cymunedau amrywiol drwy'r canlynol:
- Cyfrannu at "Adroddiad Llais y Dinesydd" blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, sy'n nodi barn a phrofadau rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaethau fel y'u cofnodir mewn unrhyw waith arolygu ac ymgysylltu a wnaed, ac yn cynnwys asesiad o farn ymatebwyr ethnig amrywiol.
- Sicrhau bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cwblhau pan fo angen, i safon uchel, a hyrwyddo arferion cynhwysol.
Gwerth cymdeithasol
Byddwn yn ceisio gwneud y mwyaf o effaith y pwrs cyhoeddus yng Nghaerdydd drwy:
- Archwilio a, lle bo'n bosibl, mabwysiadu, mesurau i gryfhau gwerth cymdeithasol mewn prosesau comisiynu a chaffael.
Lawrlwytho'r ddogfen Ymrwymiadau Cydraddoldeb Strategol (PDF, 718 KB)
