Toggle menu

Newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu

Oherwydd y tywydd cynhesach, mae rhai newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff.

Coridor trafnidiaeth gynaliadwy Heol Casnewydd

Rydym yn datblygu cynigion coridor trafnidiaeth gynaliadwy Caerdydd i Gasnewydd (coridor Heol Casnewydd).  Bydd y coridor yn cynnwys y canlynol:

  • coridor bws y Dwyrain,
  • traffordd feicio (Beicffordd 2), a
  • pharthau rheoli parcio. 

Nod y cynigion yw:

  • cysylltu canol dinas Caerdydd â Chasnewydd a'r datblygiadau busnes ar Rodfa'r Gypreswydden,
  • annog pobl i ddefnyddio teithio cynaliadwy yn hytrach na'u ceir fel y disgrifir yn Papur Gwyn Trafnidiaeth Caerdydd a Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru,
  • gwella seilwaith bysus,
  • darparu llwybr beicio o ansawdd uchel,
  • cysylltu â beicffyrdd eraill fel Llwybr Beicio 1 a Llwybr Beicio 6.

Gweld y map o'r llwybr (PDF, 630 KB).

Mae mwy o wybodaeth am y llwybr a phob cam ar gael yn pecyn gwybodaeth Heol Casnewydd (PDF, 3 MB)​. ​Gweler fersiwn hygyrch testun yn unig pecyn gwybodaeth Heol Casnewydd (PDF, 195 KB).

Datblygiad pob cam

Bydd datblygu ac adeiladu coridor Heol Casnewydd yn cael ei rannu'n 6 prif gam.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth benodol wrth iddo gael ei ddylunio a'i ddatblygu a byddwn yn ymgysylltu â chi ar bob cam. 

Cam 1 - ardal canol y ddinas

Sylwer y bydd Cam 1 bellach yn cael ei rannu'n ddau gam, Cam 1a a Cham 1b am resymau rhaglennu a chyflawni.​


Cam 2 - Ardal Heol Lydan

Rydym yn dylunio'r cam hwn.

Cam 3 - Heol Lydan i Ffordd y De

Rydym yn dylunio'r cam hwn. 

Cam 4 - Ffordd y De i Mount Pleasant

Byddwn yn dylunio'r cam hwn yn y dyfodol.

Cam 5 - Mount Pleasant i Rodfa'r Gypreswydden

Byddwn yn dylunio'r cam hwn yn y dyfodol.

Cam 6 - Rhodfa'r Gypreswydden a chyswllt Casnewydd

Rydym yn dylunio'r cam hwn. ​


Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gorsafoedd trên arfaethedig ar hyd y coridor​ ar wefan Trafnidiaeth Cymru (TrC).​

Ymgysylltu cyfredol

Daeth yr ymgysylltiad ar gyfer cam 1 i ben ar 17 Awst 2025.

Rydym yn paratoi adroddiad ymgysylltu ar gyfer y cam hwn, a byddwn yn cyhoeddi hwn maes o law.

Darllenwch fwy am gam 1 coridor trafnidiaeth gynaliadwy Heol Casnewydd.