Rydyn ni'n awyddus i wybod beth ydych chi'n ei feddwl am ein cynlluniau i wneud newidiadau ar Heol y Plwca a rhai o'r strydoedd ochr.
Yr hyn rydyn ni'n ei gynnig
Byddai'r mesurau rydyn ni'n eu cynnig yn cyflwyno croesfannau newydd i gerddwyr ac yn gwella'r rhai presennol ar hyd Heol y Plwca. Byddai hyn yn helpu pobl sy'n teithio i'r siopau lleol ac oddi yno.
Rydyn ni hefyd yn cynnig lôn fysus newydd ar ben isaf Heol y Plwca. Byddai hyn yn helpu i flaenoriaethu trafnidiaeth gynaliadwy a gwella amseroedd teithio ar fysus. Bydden ni'n gwneud newidiadau i leoliadau'r safleoedd bws ar hyd y llwybr hwn.
Fel rhan o'r cynigion, rydyn ni hefyd yn cyflwyno trefniadau parcio a llwytho newydd ar Heol y Plwca a rhan o'r strydoedd ochr. Byddai hyn yn helpu gyda throsiant parcio sy'n ei gwneud hi'n well i fusnesau a thrigolion lleol.
Rydyn ni hefyd yn datblygu parthau parcio ar gyfer yr ardal ehangach ac yn gofyn am eich barn ar wahân. Dysgwch am y parthau parcio arfaethedig ar gyfer Plasnewydd.
Mae cyfyngiadau parcio a llwytho newydd angen Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT). Bydden ni'n ymgynghori ar wahân ar gyfer y rhain fel rhan o'r broses GRhT gyfreithiol.
Gallwch chi weld:
- pecyn ymgysylltu Heol y Plwca (PDF, 2 MB),
- fersiwn hygyrch testun yn unig pecyn ymgysylltu Heol y Plwca (PDF, 237 KB), neu
- gynllun safle Heol y Plwca (2.1mb PDF) (PDF, 2 MB).
I'ch helpu i ddychmygu'r newidiadau arfaethedig, rydyn ni wedi creu fideo o'r awyr.
Nodweddion allweddol y cynnig
Mae nodweddion allweddol y cynnig yn cynnwys:
3 croesfan sebra newydd
Bydden ni'n cyflwyno 3 croesfan sebra newydd ger cyffyrdd:
- Keppoch Street a Glenroy Street
- Cyfarthfa Street, Pearson Street a Tavistock Street
- Talworth Street a Penlline Street
Gwelliannau ger Shakespeare Street
Bydden ni'n cyflwyno lôn feicio i Shakespeare Street a Milton Street. Byddai'r lôn yn un gwrthlif gorfodol sy'n golygu y byddai beicwyr yn teithio i'r cyfeiriad arall i'r system draffig unffordd. Mae hyn yn gwella mynediad i feicwyr.
Bydden ni'n uwchraddio'r groesfan twcan ger cyffordd Shakespeare Street a St Peter's Street. Byddai hyn yn cynnwys ardal â ramp a gwell amddiffyniad i'r cyswllt beicio i mewn i Shakespeare Street.
Newid croesfan ger Y Parêd
Bydden ni'n newid y groesfan sebra bresennol ger Y Parêd i groesfan pâl (sysem botymau gwthio goleuadau traffig).
Lôn fysus newydd
Bydden ni'n cyflwyno lôn fysus newydd ar Heol y Plwca rhwng Talworth Street a'r Parêd.
Safle bws a chysgodfan newydd
Bydden ni'n cyflwyno safle bws a chysgodfan newydd wrth ymyl 66 Heol y Plwca ac yn cael gwared ar y safleoedd ger yr Ernest Willows ac 84 Heol y Plwca. Byddai hyn yn gwella amseroedd teithio bysus.
Newidiadau i drefniadau parcio a Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (GRhTau)
Bydden ni'n cyflwyno sawl newid yn yr ardal, gan gynnwys:
- Parth parcio newydd (parth parcio De Plasnewydd)
- Lleoedd parcio talu ac aros newydd ar hyd Heol y Plwca a rhan o'r strydoedd ochr
- Lôn fysus newydd
- Newidiadau i gyfyngiadau parcio i gynnal llif traffig a gwella diogelwch
- Mannau llwytho newydd, mannau i bobl anabl, a mannau arbennig (ar gyfer meddygon a chynllun rhentu Enterprise Car Club)
Troedffyrdd gwell
Bydden ni'n cyflwyno troedffyrdd parhaus ar draws y mwyafrif o'r strydoedd ochr i wella teithiau cerddwyr.
Cyllido
Rydyn ni'n awyddus i gael cyllid gan grant Cronfa Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a hefyd o gyfraniadau datblygwyr (a elwir yn gyllid Adran 106). Ein nod yw cyflawni'r cynllun hwn ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Dweud eich dweud
Daeth y broses ymgysylltu hon i ben ar 17 Awst 2025.
Rydym yn paratoi adroddiad ymgysylltu a byddwn yn cyhoeddi hwn maes o law.
