Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ymgynghoriad parcio Pentref Llandaf

​​Rydym yn cynnig newid trefniadau parcio o amgylch Pentref Llandaf a hoffem glywed gennych.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig

Rydym yn cynnig:

  • cyflwyno mannau parcio ar gyfer deiliaid trwyddedau preswylwyr yn unig, 
  • cyflwyno rheolaethau parcio ychwanegol ar y Stryd Fawr i atal parcio rhwystrol, 
  • cynyddu nifer y mannau parcio i bobl anabl, a
  • cyflwyno llinellau melyn newydd lle mae cerbydau'n parcio ac yn achosi rhwystr. ​

Pam rydym yn cynnig newidiadau 

Diben y newidiadau hyn yw helpu i: 

  • blaenoriaethu lleoedd parcio i breswylwyr a'u hymwelwyr, 
  • cefnogi busnesau drwy sicrhau bod trosiant o gerbydau, 
  • ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i le parcio cyfleus, 
  • gwella mynediad i bobl anabl, 
  • atal parcio diystyriol a rhwystrol, a
  • gwella'r amodau parcio i'r gymuned yn gyffredinol. ​

Lleoliadau'r newidiadau​

Cynigir mai dim ond deiliaid trwyddedau preswylwyr fyddai'n cael parcio ar y strydoedd canlynol:

  • Stryd y Bont 
  • Heol-y-Pavin 
  • Heol Fair  
  • Adeiladau Imperial 
  • Lawnt yr Eglwys Gadeiriol (ffordd bengaead preswyl)
  • The Avenue 
  • Palace Avenue 
  • Caewal Road (rhwng Ely Road a Rhodfa'r Gorllewin​)

Ar y Stryd Fawr rydym yn cynnig: 

  • cynyddu rheolaethau llwytho er mwyn atal parcio rhwystrol, 
  • cyflwyno mannau parcio newydd i bobl anabl, ac
  • ailagor y lle parcio wedi'i fewnlenwi o flaen Fferyllfa Llandaf.

Ar Mitre Place, rydym yn cynnig cyflwyno mannau parcio arhosiad byr defnydd a rennir newydd. 

Byddai parcio yn y lleoedd hyn yn cael ei gyfyngu i uchafswm o 2 awr, ac eithrio deiliaid trwyddedau a fydd yn gallu parcio cyhyd ag sydd angen. 

Nid ydym yn cynnig unrhyw gyfyngiadau o amgylch Lawnt yr Eglwys Gadeiriol ar hyn o bryd, gan ein bod yn datblygu cynigion ar wahân ar gyfer yr ardal hon.

Gweler map o'r cynigion (PDF, 2 MB).

Pryd fyddai'r parth parcio ar waith?

8am i 6:30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn fyddai amseroedd safonol y rheolaethau parcio.

Dyma pryd y byddai'r rhan fwyaf o gyfyngiadau parcio, fel parcio â thrwydded, lleoedd aros cyfyngedig, a llinellau melyn sengl yn berthnasol.

Byddai llinellau melyn dwbl a mannau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn parhau i fod yn berthnasol drwy'r dydd, bob dydd.

Mathau o drwyddedau

Os yw'r sawl sy'n ymgeisio yn gymwys, byddai trwyddedau'n cael eu rhoi i'r canlynol:  

  • preswylwyr, a
  • busnesau.

Byddai gofalwyr a chrefftwyr yn gallu gwneud cais am drwydded dros dro wrth weithio yn y parth.

Gweler rhagor o wybodaeth am y mathau o drwyddedau rydym yn eu rhoi

Ni fyddem yn rhoi trwyddedau ar gyfer: 

  • Busnesau sydd â pharcio oddi ar y stryd
  • Parcio gan staff neu cymudwyr
  • Neuaddau preswyl i fyfyrwyr
  • Llety dros dro (fel llety byrdymor neu lety gwyliau)
  • Eiddo ar ffyrdd preifat
  • Datblygiadau gyda meysydd parcio oddi ar y stryd (hyd yn oed os nad oes digon o le i barcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad) 
  • Cerbydau trwm (dros 3.5 tunnell)​.

 

Parcio gyda thrwydded

Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:

  • mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, a
  • mannau aros cyfyngedig defnydd a rennir, mor hir ag sydd ei angen. 

Byddai deiliaid trwydded yn gallu parcio mewn unrhyw fan parcio â thrwydded cymwys yn yr ardal.

Gweler sut rydym yn dylunio parthau parcio. ​

Parcio heb drwydded

Byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio am ddim yn y mannau Aros Cyfyngedig defnydd a rennir am hyd at 2 awr.

Byddai deiliaid bathodynnau glas yn gallu parcio am gyhyd ag sydd ei angen mewn mannau Aros Cyfyngedig, neu mewn mannau i Ddeiliaid Trwydded yn Unig am hyd at 3 awr heb drwydded.

Byddai cymudwyr yn cael eu hannog i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.​

Cost trwyddedau

  • Byddai gan breswylwyr hawl i hyd at ddwy drwydded fesul aelwyd, a nifer o drwyddedau i ymwelwyr.
  • Byddai'r drwydded preswylydd gyntaf yn costio £25Byddai'r ail drwydded preswylydd yn costio £70
  • Byddai trwyddedau ymwelwyr yn costio £35 fesul bwndel o 850 awr
     

Byddai gan fusnesau hawl i un drwydded fesul safle busnes, ar gyfer cerbyd gweithredol (er enghraifft cerbyd dosbarthu) sydd wedi'i yswirio at ddefnydd busnes. 

Byddai cost trwydded busnes yn dibynnu ar faint o lygredd y mae'r cerbyd yn ei gynhyrchu.​

Yr arwyddion a'r llinellau a fyddai'n cael eu defnyddio yn y parth

Rydym yn deall bod yr ardal hon yn ardal gadwraeth, felly byddem yn sicrhau, lle bynnag y bo modd, y byddai arwyddion a llinellau ar gyfer unrhyw gyfyngiadau newydd yn gydnaws ag estheteg weledol yr ardal.

Er enghraifft:

  • Lle bo modd, byddem yn gosod arwyddion ar gelfi stryd presennol 
  • Byddai unrhyw byst a ddefnyddir ar gyfer arwyddion yn cael eu peintio'n ddu
  • Byddai arwyddion mor fach ag y mae'r rheoliadau'n ei ganiatáu
  • Ni fyddem yn defnyddio byrddau cefn melyn ar gyfer arwyddion 
  • Byddem yn gosod arwyddion lle byddent yn tarfu cyn lleied â phosibl ar yr ardal.

 

Dweud eich dweud

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 14 Mehefin 2026.