Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynlluniau arbrofol

Gan ddefnyddio Gorchymyn Rheoli Traffig Arbrofol (GRhTA), gallwn gyflwyno cynllun arbrofol a rhoi cynnig arno cyn ei wneud yn barhaol.

Efallai y byddwn ni am dreialu cynllun oherwydd gallai fod:

  • y cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd,
  • yn aneffeithiol neu â sgîl-effeithiau annerbyniol,
  • angen newidiadau cyflym neu gael ei waredu, neu
  • nid yw'n rhan o ddeddfwriaeth arferol.

Beth yw hyd y cynllun

Hyd arferol GRhTA a chynllun arbrofol yw hyd at 18 mis.

Yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn monitro'r cynllun i weld a yw'n gweithio.

Ymgynghoriad

Cyn cyflwyno cynllun arbrofol, efallai y byddwn yn cynnal:

  • arolygon defnyddwyr,
  • ymgynghoriadau, a
  • monitro parcio, traffig a cherddwyr.

Gall ymgynghoriadau olygu siarad â:

  • phreswylwyr,
  • busnesau,
  • cymdeithasau crefyddol a chymdeithasol, a
  • defnyddwyr eraill yr ardal.

Monitro

Ar ôl y treial 18 mis, rydym yn cynnal mwy o arolygon ac ymgynghoriadau i wirio:

  • newidiadau, effeithiau a manteision, a
  • barn trigolion, busnesau a defnyddwyr eraill.

Yna gallwn benderfynu a ddylid gwneud y cynllun yn barhaol ai peidio.

Cynlluniau arbrofol cyfredol