Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Toiledau yng Nghaerdydd

Os ydych chi'n breswylydd neu'n ymwelydd â Chaerdydd, rydyn ni eisiau sicrhau y gallwch chi gael mynediad at doiled ar gyfer eich anghenion.

Gallwch chi weld rhestr lawn o doiledau cyhoeddus y gallwch chi eu defnyddio ar Wefan Croeso Caerdydd.

Gall busnes neu sefydliad ddangos eu bod yn hapus i'r cyhoedd ddefnyddio eu cyfleusterau toiled trwy arddangos y sticer Cynllun Toiledau Cymunedol yma yn y ffenest.

Os ydych chi'n fusnes neu'n sefydliad a hoffai gymryd rhan yn y cynllun Cynllun Toiledau Cymunedol, cysylltwch â: [email protected].

Strategaeth Toiledau Lleol

Yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 mae angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyhoeddi strategaeth toiledau lleol. Rydyn ni wedi cyhoeddi dogfennau i ddangos canfyddiadau a chamau gweithredu sy'n deillio o hynny.

Gweler dogfennau Adroddiad Ymgynghori a Strategaeth Rhagfyr 2019.

Gweler y Datganiad Cynnydd Interim - Rhagfyr 2019 i Ragfyr 2021 (PDF, 1 MB).

Gweler Adroddiad Adolygu Strategol a Cynnydd - Strategaeth Toiledau Lleol 2023 (PDF, 5 MB).