Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Adolygiad o dreial Glyn Crisial

Rydym wedi bod yn treialu cynllun mynediad traffig yng Nglyn Crisial yn Llanisien. 

Fel y cyntaf o'i fath yng Nghaerdydd, gwnaethom ddefnyddio gorchymyn rheoli traffig arbrofol (GRhTA)​ i gyflwyno'r cynllun. Mae GRhTAau yn para hyd at 18 mis i adael i ni dreialu cynlluniau i sicrhau eu bod yn gweithio. 

Gan fod y treial ar gyfer giât drwydded Glyn Crisial​ yn dod i ben, mae angen i ni benderfynu a ddylem wneud y cynllun yn barhaol. 

Yr hyn rydym wedi bod yn ei adolygu 

Pan wnaethom gyflwyno'r cynllun am y tro cyntaf, dywedon ni y byddem yn ystyried a fyddai'n:   

  • lleihau traffig o gwmpas Glyn Crisial, 

  • cael gormod o effaith negyddol ar ffyrdd cyfagos, ac yn  

  • cael cefnogaeth y cyhoedd. 

Rydym hefyd yn gobeithio y byddai'r cynllun yn:

  • annog teithio llesol (er enghraifft, beicio), ac yn 

  • arafu cerbydau  

Monitro'r treial 

Cyn i'r treial ddechrau, gwnaethom gynnal arolygon traffig ar Lyn Crisial a'r ffyrdd cyfagos rhwng 7am a 7pm.  

Roedd hyn er mwyn gweld: 

  • faint o gerbydau sy'n defnyddio'r ffordd, 

  • pa mor gyflym mae cerbydau'n teithio, a  

  • faint o feicwyr sy'n defnyddio'r ffordd.

Gwnaethom gynnal yr arolygon hyn eto yn ystod y treial. 

Gwnaethom hefyd osod dyfeisiau monitro traffig ar ffyrdd cyfagos. Er enghraifft: 

  • Heol y Fid-las, 

  • Three Arches Avenue.   

  • Heol Maes y Coed, a  

  • Heol Heathwood.  

Gwnaeth hyn ein helpu i weld a oedd y cynllun yn effeithio ar draffig ar ffyrdd cyfagos ac ym mha ffordd.  

Defnyddio adborth 

Pan gyflwynwyd y cynllun am y tro cyntaf, roedd trwyddedau mynediad ond ar gael i:

  • drigolion, 

  • busnesau, a 

  • grwpiau cymunedol. 

Gallai trigolion hefyd wneud cais am basys ymwelwyr.  

Yn dilyn adborth, gwnaethom ehangu'r cynllun trwyddedau i gynnwys gofalwyr a chymdeithion. Ers cyflwyno'r rhain, rydym wedi cyflwyno 25 o drwyddedau gofalwyr a dros 100 o drwyddedau cydymaith.    

Dileu'r cyfyngiadau  

Fel rhan o'r cynllun arbrofol, gwnaethom hefyd dreialu cael gwared ar y cyfyngiad 'dim troi i'r dde' o Lyn Crisial i Heol Heathwood.  

Roedd hyn er mwyn ei gwneud hi'n haws i yrwyr heb drwyddedau gael mynediad i'r ardal.  

Gwnaethom gynnal archwiliad diogelwch ffyrdd cyn gwneud hyn.  

Yr hyn mae'r treial wedi'i ddangos i ni 

Ers dechrau'r cynllun, bu:  

  • Gostyngiad o 55% mewn traffig drwy Lyn Crisial (o 9,500 o gerbydau'r dydd ar gyfartaledd i 4,300 y dydd).

  • Dim gwahaniaeth i draffig ar ffyrdd cyfagos (mae arolygon wedi dangos bod hyn yn gyson cyn ac ar ôl).  

  • Gostyngiad o 68% mewn hysbysiadau tâl cosb (HTCau) a gyflwynwyd yn yr ardal am beidio â chydymffurfio. 

  • Cynnydd o 16% yn nifer y beicwyr sy'n defnyddio Glyn Crisial. 

  • Gostyngiad o 76% mewn cerbydau sy'n goryrru. Mae hyn yn cyfrif at y gostyngiad yn y terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 30mya i 20mya a ddigwyddodd yn ystod y treial.  

Gwnaethom hefyd gynnal archwiliad diogelwch ffyrdd o'r penderfyniad i gael gwared ar y troad dde gwaharddedig, a ddangosodd i ni nad oedd unrhyw broblemau diogelwch wedi'u codi ers iddo gael ei ddileu.   

Y camau nesaf  

Mae'n rhaid i ni nawr benderfynu p'un a ddylem:  

  • Wneud y cynllun yn barhaol, heb unrhyw newidiadau.  

  • Gwneud y cynllun yn barhaol, ond gyda newidiadau i bethau fel yr amseroedd gweithredol neu'r dyddiau gorfodi. 

  • Canslo'r cynllun. Byddai hyn yn golygu na fydd unrhyw gyfyngiadau giatiau yn cael eu gorfodi.  

Pa bynnag opsiwn a gymerwn, ni fyddwn yn ailgyflwyno'r cyfyngiad 'mynediad yn unig' a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Nid yw'r mathau hyn o gyfyngiadau bellach yn cael eu cefnogi gan bolisi'r heddlu na'r cyngor.   ​

Dweud eich dweud ​

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 10 Medi 2025.​ 

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r holl adborth cyn penderfynu.