Rydyn ni eisiau clywed eich barn ar ein cynlluniau i wneud newidiadau i'r briffordd ar Heol Pendwyallt yn Coryton.
Mae'r cynigion yn ymwneud ag ardal Heol Pant-mawr a chyffordd Lon-y-Celyn, ger Tafarn y Hollybush.
Byddai'r rhain yn cyflwyno:
- croesfan gyfochrog ddyrchafedig ar Heol Pendwyallt sy'n ymestyn ar draws Heol Pant-mawr a thuag at dafarn yr Hollybush, a
- gwelliannau i'r droedffordd er mwyn tynhau cyffyrdd a gwneud y droedffordd ger y cilfan bws yn fwy llydan.
Gweler map o'r cynigion (PDF, 244 KB).
Pam rydyn ni'n cynnig gwelliannau
Rydyn ni'n cynnig y gwelliannau hyn i helpu i greu amgylchedd mwy diogel i bawb ac i gefnogi teithio llesol.
Byddai'r cynigion yn:
- annog cerbydau i arafu,
- gwella cyfleusterau croesfannau i gerddwyr, yn enwedig i blant sy'n teithio i Ysgol Gynradd Coryton ac oddi yno, a
- gwella mynediad i feiciau, yn unol â'r lôn feicio a'r droedffordd sy'n mynd tuag at Ysbyty Felindre.
Ariannu
Rydym yn chwilio am gyllid ar gyfer y prosiect hwn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.
Yn amodol ar gyllid, rydym yn bwriadu cyflawni'r cynllun yn ystod blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Dweud eich dweud
Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 19 Rhagfyr 2025.
Rydym yn deall y gallai fod gennych awgrymiadau ar gyfer gwelliannau diogelwch eraill ar hyd y llwybr hwn. Yn anffodus, ni allwn wneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r cynigion hyn am resymau cyllido. Byddwn yn cadw cofnod o unrhyw awgrymiadau eraill i'w hystyried ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol.
Er na allwn ymateb yn unigol, byddwn hefyd yn ychwanegu'r holl faterion a godwyd at ein hadroddiad ymgynghori. Bydd hwn ar gael ar-lein neu drwy gais yn y dyfodol, ar ôl i ni gau'r ymgynghoriad ac adolygu adborth.
Mwy o wybodaeth am fesurau traffig
Darganfyddwch beth mae pob term yn ei olygu:
Croesfan sebra
Mae'r rhain yn addas ar gyfer safleoedd sydd â lefelau canolig o alw gan gerddwyr a llif cerbydau, lle na fyddai croesfan pâl yn addas.
Gall y math hwn o groesfan fod o fudd i gerddwyr gan nad oes isafswm amser aros ar gyfer yr hawl i groesi.
Gellir cyfuno croesfannau sebra â rhwystrau ymwthiol. Gallai'r rhain:
- wella gwelededd i yrwyr a cherddwyr,
- lleihau pellteroedd croesi, a
- helpu cerddwyr i ddangos eu bod yn bwriadu croesi ffordd.
Croesfan sebra ddyrchafedig
Croesfannau sebra yw'r rhain sydd yn cynnwys bwrdd arafu, neu pan fyddant wedi eu gosod wrth gyffordd ddyrchafedig (naill ai ar ei phen ei hun neu fel rhan o gyfres ehangach o fesurau arafu traffig).
