Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cynigion cynllun parcio i breswylwyr yn y Mynydd Bychan

​​​​​Rydym yn cynnig cynllun parcio newydd i breswylwyr yn ardal y Mynydd Bychan a hoffem glywed gennych.

Pam rydym yn cynnig newidiadau 

Rydym wedi cael cwynion bod pobl yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i leoedd parcio addas yn yr ardal. Mae hyn oherwydd cynnydd mewn parcio rhwystrol ac anystyriol. 

Byddai'r cynllun newydd yn helpu i: 

  • Flaenoriaethu lleoedd parcio ar gyfer preswylwyr, busnesau a grwpiau cymunedol.

  • Ei gwneud hi'n haws i siopwyr ac ymwelwyr ddod o hyd i le parcio cyfleus.

  • Gwella llif traffig.

  • Stopio parcio problemus.

Rydym hefyd wedi helpu i leihau problemau tebyg mewn ardaloedd eraill trwy gyflwyno cynlluniau parcio i breswylwyr. 

Lle byddai'r cynllun yn berthnasol

Byddai cyfyngiadau yn berthnasol i:

  • Heol Llwynbedw,
  • Cae Maen,
  • Coronation Road,
  • Cromwell Road,
  • Groveland Road,
  • Hampton Road,
  • Lôn-y-Groes,
  • Norton Avenue,
  • Pantbach Avenue,
  • Pantbach Place, 
  • Heol Pant-bach (rhwng Pantbach Place a Heol Llwynbedw), a 
  • Richs Road.

 

Pryd fyddai'r cynllun yn weithredol

Rydym yn cynnig y byddai'r cyfyngiadau yn berthnasol rhwng:

  • 9am a 5pm, neu 

  • 8am ac 6:30pm

ac y byddan nhw'n weithredol:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener, neu  

  • O ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Gall cyfyngiadau byrrach weithio'n dda i atal cymudwyr a gwella amodau parcio pan fydd y galw ar ei uchaf, wrth alluogi  pobl eraill (fel ymwelwyr) i barcio heb gyfyngiad gyda'r nos. 

Mae cyfyngiadau hirach yn gweithio'n dda mewn ardaloedd prysur gyda galw mawr am barcio trwy gydol y dydd.

Nid yw cynlluniau parcio i breswylwyr fel arfer yn gweithredu ar ddydd Sul.​

Mathau o drwyddedau

Os yw'r sawl sy'n ymgeisio yn gymwys, byddai trwyddedau'n cael eu rhoi i'r canlynol:  

Preswylwyr

Byddai trwyddedau'n cael eu rhoi i breswylwyr y mae eu cerbydau wedi'u cofrestru mewn cyfeiriad o fewn ardal arfaethedig y cynllun yn unig. Gall preswylwyr brynu hyd at 2 drwydded fesul cartref.

Ymwelwyr

Byddai preswylwyr yn gallu prynu nifer o drwyddedau ar gyfer eu hymwelwyr. Ni fyddai angen i chi gael trwydded i breswylwyr i wneud cais am drwydded ymwelwyr.

Busnesau

Byddai busnesau yn yr ardal yn gallu prynu hyd at 2 drwydded ar gyfer cerbydau sy'n hanfodol i weithrediad y busnes. Er enghraifft, cerbydau dosbarthu. Ni fyddem yn cyhoeddi trwyddedau busnes ar gyfer parcio staff.  

Adeiladau cymunedol 

Byddai adeiladau fel mannau addoli a neuaddau cymunedol yn gallu prynu hyd at ddwy drwydded. Gallai pob trwydded gael hyd at 3 cherbyd wedi'u cofrestru arni ar unrhyw adeg. Gellid newid y cerbydau cofrestredig pryd bynnag y bo angen. Er enghraifft, i ddarparu ar gyfer gwahanol ymwelwyr dros amser. 

Byddai gofalwyr (sy'n gofalu am breswylwyr), Contractwyr ac Athrawon Ysgol hefyd yn gallu gwneud cais am drwydded wrth weithio yn yr ardal. 

Ni fyddai trwyddedau cymunedol yn cael eu cyhoeddi ar gyfer: 

  • cymudo neu fannau parcio i staff, 
  • neuaddau preswyl i fyfyrwyr,  
  • eiddo ar ffyrdd preifat, 
  • datblygiadau gyda meysydd parcio oddi ar y stryd, hyd yn oed os nad oes digon o le i barcio ar gyfer yr holl eiddo yn y datblygiad, neu
  • gerbydau trwm (dros 3.5 tunnell).

 

Cost trwyddedau

Byddai trefniadau parcio i ddeiliaid bathodyn glas yn aros yr un fath. Dysgwch fwy am barcio i ddeiliaid bathodyn glas​. 

Ardal barcio R4 (Y Mynydd Bychan)
Math o drwyddedHydCost​Uchafswm nifer (os yw'n berthnasol)
Trwydded preswylydd12 misTrwydded gyntaf: £25​
Ail drwydded: £60
2 fesul aelwyd gymwys
Trwydded ymwelwyr i breswylwyr12 mis£35 am fwndel o 850 awr2 fwndel y flwyddyn fesul cartref
Trwydded ymwelwyr hygyrch i breswylwyr12 mis£351 fesul aelwyd (yn lle trwydded ymwelwyr i breswylwyr)
Trwydded busnes12 misTrwydded gyntaf: £60
Ail drwydded: £120
2 fesul eiddo cymwys
Trwydded gymunedol12 mis£252 fesul eiddo cymwys

​ 

Parcio gyda thrwydded

Byddai gyrwyr sydd â thrwyddedau yn gallu parcio mewn:

  • Mannau i ddeiliaid trwydded yn unig, a
  • Mannau defnydd a rennir (wedi'u rhannu rhwng deiliaid trwydded ac aros cyfyngedig).

Byddai deiliaid trwydded yn gallu parcio mewn unrhyw fan parcio cymwys yn yr ardal. Byddai hyn yn golygu na fyddai deiliaid trwydded yn cael eu cyfyngu i barcio yn eu stryd yn unig. 

Ni fyddai trwyddedau byth yn gwarantu lle parcio nac yn caniatáu parcio mewn ardaloedd eraill sydd â chynllun parcio i breswylwyr. 

Ni fyddai angen trwydded arnoch i barcio ar dramwyfa neu oddi ar y stryd. 

Parcio heb drwydded

Yn ystod oriau gweithredol y cynllun, byddai gyrwyr heb drwyddedau yn gallu parcio mewn mannau aros cyfyngedig, fel arfer am hyd at 1 neu 2 awr.

Byddai'r mannau hyn ar gael ledled yr ardal i ymwelwyr a siopwyr eu defnyddio. 

Byddai deiliaid bathodynnau glas yn gallu parcio mewn mannau i ddeiliaid trwydded yn unig am hyd at 3 awr heb drwydded, ac am gyhyd ag sydd ei angen mewn mannau aros cyfyngedig.

Byddem yn annog cymudwyr i ddod o hyd i opsiynau teithio amgen.  

Y tu allan i oriau gweithredol y cynllun, byddai parcio yn parhau i fod yn anghyfyngedig oni nodir yn wahanol. 

​Dweud eich dweud 

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 25 Gorffennaf 2025. 

Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r holl adborth cyn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun ai peidio.​