Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Croesfan sebra ddyrchafedig Inverness Place

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31​ Hydref 2025.

​​​​Rydym eisiau gwybod beth ydych chi'n ei feddwl am ein cynlluniau ar gyfer newidiadau i'r briffordd ar Inverness Place. ​​​

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Byddai ein cynigion yn cyflwyno: ​

  • Croesfan sebra ddyrchafedig ar Inverness Place, ger y gyffordd â Dalcross Street.
  • Palmentydd botymog a chyrbiau isel, i wella troedffyrdd a mannau croesi ger y gyffordd.

 Gweld map o'r cynigion (PDF, 253 KB).

Pam rydym yn cynnig gwelliannau 

Rydym yn cynnig y gwelliannau hyn i helpu i greu amgylchedd mwy diogel i bawb ac i gefnogi teithio llesol. ​​Er enghraifft, drwy:

  • annog cyflymder is gan gerbydau ar hyd Inverness Place, a
  • gwella cyfleusterau croesfan i gerddwyr, yn enwedig i i blant sy'n teithio i ac o Ysgol Gynradd Parc y Rhath.​​

​Ariannu

Rydym yn chwilio am gyllid ar gyfer y prosiect hwn o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.Yn amodol ar gyllid, rydym yn bwriadu cyflawni'r cynllun yn  ystod blwyddyn ariannol 2026 i 2027. 

Adroddiad ar yr ymgynghoriad​​

​Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad rhwng 10 Hydref a 31 Hydref 2025. Mae adroddiad yr ymgynghoriad yn dangos yr adborth a gawsom. Mae hefyd yn rhoi rhestr o sylwadau, safbwyntiau neu bryderon a godwyd.

Yng ngoleuni'r ymgynghoriad cyhoeddus, rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynnig fel y nodir ar y cynllun.

Darllen adroddiad llawn yr ymgynghoriad (PDF, 123 KB).

Gweld yr hysbysiad safle wedi'i ddiweddaru (PDF, 253 KB).

Mwy o wybodaeth am fesurau traffig

Darganfyddwch beth mae pob term yn ei olygu: 

Croesfan sebra

Mae'r rhain yn addas ar gyfer safleoedd sydd â lefelau canolig o alw gan gerddwyr a llif cerbydau, lle na fyddai croesfan pâl yn addas. ​

Gall y math hwn o groesfan fod o fudd i gerddwyr gan nad oes isafswm amser aros ar gyfer yr hawl i groesi. 

Gellir cyfuno croesfannau sebra â rhwystrau ymwthiol. Gallai'r rhain:

  • wella gwelededd i yrwyr a cherddwyr, 
  • lleihau pellteroedd croesi, a 
  • helpu cerddwyr i ddangos eu bod yn bwriadu croesi ffordd. 

 

​Croesfan sebra ddyrchafedig​​

Croesfannau sebra yw'r rhain sydd yn cynnwys bwrdd arafu, neu pan fyddant wedi eu gosod wrth gyffordd ddyrchafedig (naill ai ar ei phen ei hun neu fel rhan o gyfres ehangach o fesurau arafu traffig)​.​​

Rhwystr ymwthiol

Mae hwn yn rhan o droedffordd sydd wedi'i ledu. Gallwn ddefnyddio rhwystrau ymwthiol i:

  • ail-lunio cyffyrdd, 
  • diffinio mannau parcio, a 
  • lleihau pellteroedd i gerddwyr wrth groesi. 

Gallant wella gwelededd i bawb.​​

Palmant botymog

Mae hwn yn fath o balmant sy'n helpu i rybuddio defnyddwyr ag amhariad ar eu golwg nad oes bwlch rhwng y droedffordd a'r ffordd.

Cwrbyn isel

Dyma lle mae'r lefel rhwng y droedffordd a'r ffordd yn cael ei leihau gymaint â phosibl, i helpu:

  • defnyddiwr cadair olwyn,
  • pobl â chadeiriau gwthio, a 
  • defnyddwyr eraill sydd ag amhariad symudedd.

Mae cyrbau isel yn cael eu defnyddio ar gyfer y ffurf symlaf o groesfan i gerddwyr. Maen nhw hefyd yn cynnwys palmant botymog.