Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Dylunio a chyflwyno parth rheoli parcio

Pan fyddwn yn dylunio parth rheoli parcio (PRhP) ac yn ymgynghori arno, rydym yn dilyn set o egwyddorion safonol.

Mae'n cymryd 1 i 2 flynedd i ni ymgynghori ar barth rheoli traffig a'i weithredu.

Dysgwch fwy am barcio mewn parth rheoli traffig.

Egwyddorion dylunio PRhP

Byddwn yn creu dyluniad manwl ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod gennym ddull gweithredu cyson, rydym fel arfer yn:

  • nodi'r holl ofod ymyl y ffordd lle mae'n ddiogel i barcio fel man parcio, neu roi llinell felen lle mae'n beryglus neu'n rhwystrol,
  • ceisio rhoi mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig y tu allan i eiddo preswyl, a mannau aros a thalu ac aros cyfyngedig ger siopau, busnesau ac amwynderau,
  • rhannu gofod y ffordd yn fwy cyfartal rhwng mannau parcio i ddeiliaid trwydded yn unig a mannau aros a thalu ac aros cyfyngedig os oes angen mwy o barcio arhosiad byr. Fel yn ymyl ardaloedd siopa prysur,
  • ceisio cael cyn lleied o linellau melyn ac arwyddion â phosibl mewn ffyrdd tawelach fel ffyrdd pengaead drwy greu ardaloedd parcio â thrwydded,
  • ceisio sicrhau cynifer o fannau parcio â phosibl ac efelychu patrymau parcio presennol,
  • gwneud iawn am unrhyw fannau parcio sy'n cael eu colli ar ffyrdd cul trwy gynyddu nifer y mannau parcio sydd ar gael ym mhob rhan o'r parth rheoli parcio,
  • peidio â gwneud unrhyw newidiadau i fannau parcio i bobl anabl sydd eisoes yn bodoli, a
  • pheidio â rheoli parcio o flaen tramwyfeydd tai fel y gall preswylwyr barcio o flaen eu tramwyfeydd eu hunain. Os cewch broblemau gyda phobl yn parcio o flaen eich tramwyfa, gallwch wneud cais am farc bar H.

Cyflwyno PRhP

Mae 5 cham y mae'n rhaid i ni eu cymryd wrth ddylunio a chyflwyno parth rheoli parcio newydd:

Ymchwiliad

Rhaid i ni asesu'r ardal gydag arolygon parcio ac astudio'r math o gyfyngiadau parcio y gall fod eu hangen arnom.

Yna gallwn bennu ffiniau, diwrnodau gwaith ac oriau'r cynnig.

 

Ymgynghoriad anffurfiol

Rydym yn ysgrifennu at breswylwyr a busnesau i ofyn am adborth. Rydym yn rhoi dolen i arolwg lle gallwch ddweud wrthym a ydych yn cefnogi'r cynnig a rhoi sylwadau.

Gweld yr ymgynghoriadau presennol.

Pan fyddwn yn adolygu'r holl ymatebion, byddwn yn ystyried y canlynol:

  • y gyfradd ymateb,
  • lefel y gefnogaeth,
  • yr holl sylwadau ac awgrymiadau.

Rydym yn ystyried unrhyw adborth a roddir ond ni allwn ymateb yn unigol i unrhyw un.

 

Dyluniad

Os cawn ddigon o gefnogaeth o'r ymgynghoriad anffurfiol, byddwn yn gwneud dyluniad manwl o'r PRhP. Bydd y dyluniad yn cynnwys cyfyngiadau parcio a therfynau amser.

Rydym yn ceisio gwneud parthau nad ydynt yn rhy fawr ac sydd â ffiniau clir i osgoi dryswch.

Defnyddir y dyluniad hwn yn yr ymgynghoriad ffurfiol.

 

Ymgynghoriad ffurfiol a gweithredu

Os byddwn yn penderfynu cyflwyno'r parth rheoli parcio, byddwn yn creu gorchymyn rheoli traffig.

Rydym yn sicrhau bod y dyluniad manwl ar gael i'r cyhoedd ei weld. Rydym yn hyrwyddo hyn yn y wasg leol, ar ein gwefan, ac ar hysbysiadau ar y stryd.

Gallwch gyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol o fewn 21 diwrnod.

Os bydd yr ymgynghoriad yn llwyddiannus, byddwn yn gosod yr arwyddion a'r llinellau i wneud y parth rheoli parcio'n orfodadwy.

 

Adolygiadau

Ar ôl 12 i 18 mis, rydym yn adolygu'r PRhP newydd i asesu a yw'n effeithiol ac a oes angen i ni wneud unrhyw newidiadau.

Rydym yn ceisio adolygu pob parth rheoli traffig sy'n bodoli bob 5 mlynedd.